Stephen King
Darlithydd mewn Ffilm a Ffotograffiaeth
Cafodd Stephen yrfa wobrwyol mewn ffotograffiaeth cyn symud i’r byd academaidd. Ag yntau’n ffotograffydd gyda’i luniau wedi eu cyhoeddi’n rheolaidd mewn cylchgronau ffordd o fyw a chwaraeon o 15 mlwydd oed, aeth ymlaen i astudio ffotograffiaeth yn ffurfiol yng Ngholeg Celf a Dylunio Bournemouth a Pool, Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain (KASK) Gent, Gwlad Belg, a Phrifysgol Bolton.
Cydsefydlodd Stephen y cylchgrawn ffordd o fyw Document a bu’n uwch-ffotograffydd a Golygydd Lluniau am 10 mlynedd, gan ymgymryd ag aseiniadau rhyngwladol mewn mannau fel yr U.D.A., Tsiena, Rwsia, Awstralia, Japan ac ar draws yr U.E. cyn symud tuag at ddatblygu ei ymarfer personol. O ran ei waith masnachol, fe’i comisiynwyd gan sawl brand a sefydliad blaenllaw ac mae ei brosiectau dogfennol cymdeithasol wedi eu cyhoeddi a’u harddangos yn rhyngwladol. Mae’r prosiectau a’r comisiynau mae’n eu cyflawni yn aml yn canolbwyntio ar ein perthynas gyda’r gofod ffisegol a chymdeithasol, ynghyd â’n syniadau am berchnogaeth a pherthyn.
Mae llawer o waith Stephen yn waith ar y cyd, ac wedi eu cydysgrifennu gyda chyfranogwyr ei brosiectau yn ogystal ag artistiaid, cerddorion, awduron ac academyddion eraill. Mae gwaith Stephen wedi ennill canmoliaeth eang gan feirniaid, yn fwyaf nodedig wrth ennill y Brighton Photo Biennial yn 2010.