Suzannah Evans
Ymarferydd Darlithydd mewn Therapi Galwedigaethol (0.4)
Dechreuais fy ngyrfa mewn Therapi Galwedigaethol yn 1994 ar ôl graddio o Brifysgol Dwyrain Anglia. Rwyf wedi cael gyrfa amrywiol hyd yma (roedd hynny’n un o’r pethau wnaeth fy nenu at ThG yn y lle cyntaf) ond rwyf wedi treulio amser sylweddol yn gweithio gyda phobl â dementia a’u partneriaid gofal.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel cyd-archwilydd ar y prosiect GREAT ar Ymchwil Ymarfer wedi’i noddi gan Brifysgol Caerwysg, ar ôl bod yn rhan o’r tîm ymchwil ers yr Hapdreial Rheoledig Cyntaf o Adsefydlu Gwybyddol ymysg pobl gydag Alzheimers cam cynnar yn 2005. Rwyf hefyd wedi gweithio fel Therapydd Galwedigaethol Ymchwil yn rhan o dîm ymchwil clinigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn BIPBC, yn gweithio ar ystod o brosiectau ar sail Therapi Galwedigaethol ac ymchwil clinigol arall.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gydag oedolion sydd ag anghenion Iechyd Meddwl dwys a pharhaus yn BIPBC.
Pan nad ydw i’n bod yn ThG, gallwch ddod o hyd i mi yn fy mholydwnel, mewn canŵ oren neu gyda phelen wlân yn fy nwylo.