Taofik Adeosun

Darlithydd Cyfrifeg a Chyllid

Picture of staff member

Gweithiwr profiadol a phroffesiynol ym myd cyllid yw Taofik, sydd wedi ymrwymo’n llwyr i addysg a dysgu’n barhaus. Dechreuodd ei yrfa fel cyfrifydd ym 1997 gydag International SOS, arweinydd byd-eang mewn iechyd a rheoli risg diogelwch. Yma, cafodd brofiadau amhrisiadwy mewn cyfrifo ariannol a rheolaeth, a arweiniodd y ffordd at ddau ddegawd disglair yn Shell. 

Yn Shell, cafodd Taofik swyddi uchel mewn Cyfrifo Ariannol a Rheolaeth, Rheoli’r Gyflogres, Partneriaeth Prosiect a Busnes, Cyfrifo Asedau, Llywodraethiant E&P, a Rheoli Menter.

Yn angerddol am fentora, mae Taofik wedi arwain sawl darpar gyfrifydd i lwyddiant, fel tiwtor i ACCA, ICAN, AAT ac arholiadau proffesiynol eraill.

Ymunodd Taofik ag Ysgol Fusnes Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2024 o Goleg Kendal yn Cymbria, Lloegr, lle’r oedd yn Ddarlithydd Cyfrifeg.

Mae ganddo radd Ail Ddosbarth Uwch mewn Cyfrifeg, o Brifysgol Obafemi Awolowo, Nigeria; Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Llywodraethu a Datblygu Cynaliadwy o Brifysgol Swydd Stafford, a chwblhaodd radd Meistr mewn Gwyddoniaeth gyda Rhagoriaeth mewn Bancio a Chyllid Islamaidd ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd gyda gwobr am y Perfformiad Gorau gan Fyfyriwr mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid.

Mae gan Taofik Dystysgrif lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol (CAVA) ac mae’n dilyn cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu AU ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae’n Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Nigeria (ICAN), ac yn Gymrawd Cyswllt y Sefydliad Bancio Islamaidd ac Yswiriant (IIBI) Llundain.

Yn ei amser hamdden, mae Taofik yn mwynhau darllen llyfrau amrywiol, teithio a meddwl am faterion cyfoes.

Diddordebau Ymchwil

Polisi cynaliadwyedd a difidend corfforaethol

Effaith ESG ar fenthyciadau corfforaethol

Sylwedd a ffurf mewn cyfrifeg Islamaidd

Cymarebau ariannol, safleoedd academaidd, graddfeydd ac ansawdd. Astudiaeth o Addysg Uwch a AB y Deyrnas Unedig

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2023 Perfformiad Myfyrwyr Gorau mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Association of Chartered Certified Accountants (ACCA)

Corff Cyfrifeg Siartredig

Institute of Chartered Accountants of Nigeria (ICAN)

Corff Cyfrifeg Siartredig

Institute of Islamic Banking and Insurance (IIBI)

Corff Cyllid Islamaidd

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Blwyddyn
Shell

Ymgynghorydd Cyllid

2001 - 2021
Kendal College

Darlithydd Cyfrifeg

2023 - 2024
International SOS

Cyfrifydd Ariannol

1997 - 2001

Addysg

Institution Qualification Subject From/To
Prifysgol Bangor MSc Islamic Banking and Finance

Bancio a Chyllid

2022 - 2023
Staffordshire University PGCert Governance and Sustainable Development

Astudiaethau Datblygu

2009 - 2010
Obafemi Awolowo University BSc Accounting

Rheolaeth a Chyfrifeg

1990 - 1995

Diddordebau Addysgu

Cyfrifeg Rheolaeth

Archwilio a Sicrwydd

Cyfrifeg Ariannol

Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol

Cyllid Islamaidd

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Advanced Financial Management) BUS688
Financial Insights and Business Intelligence BUS7B47
Sustainable Finance: Theory and Practice BUS5A21
Deputy Programme Leader MBA (online) MBA