Teresa Davies

Tiwtor Sgiliau Iaith Gymraeg

Picture of staff member

‘Cyn ymuno gyda Wrecsam, roedd Teresa’n gweithio mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, yn cefnogi a chreu cyfleoedd dysgu i ddisgyblion, iddynt gael mwynhau a datblygu eu gwybodaeth a’u balchder drwy’r Cwricwlwm i Gymru.

Cyn hynny, bu’n gweithio am saith mlynedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gofalu am archifau gwerthfawr Cymru gan gyfrannu at rai o’u prosiectau digido mawr. Wedi iddi symud i ogledd Cymru, bu’n gweithio yn Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint am bum mlynedd, lle roedd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cwsmeriaid.

Graddiodd Teresa gyda B.A. (Anrhydedd) yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth yn 2005.
  
Mae Teresa’n frwd dros gefnogi dysgwyr Cymraeg ar eu taith i ddod yn siaradwyr rhugl ac yn credu bod rhoi’r cyfleoedd dysgu cywir yn hanfodol er mwyn codi hyder i gyflawni eu potensial. Yn ei hamser rhydd, mae Teresa’n mwynhau cymryd rhan mewn amrywiol weithdai creadigol a threulio amser yn ei hardal leol yn sir y Fflint, lle mae’n cael ei hysbrydoli gan ei phobl a’r golygfeydd hardd.’

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2024 Welsh Language Champion Student Union Awards
2024 Learner of the Year National Eisteddfod