Dywed Yadzia fod ei chefndir diwylliannol Pwylaidd wedi helpu i ddiffinio pwy yw hi heddiw, fel Darlunydd a Gwneuthurwr Delweddau sy’n gweithio’n bennaf drwy gyfrwng Gwneud Printiau.
Astudiodd Gyfathrebu Gweledol yng Ngholeg Celf Caergaint/Canterbury, gan arbenigo mewn Darlunio a Darlunio ar gyfer Cyhoeddi Plant.
Mae Yadzia wedi addysgu Darlunio ers dros 40 mlynedd ac mae’n frwdfrydig am Rwymo Llyfrau a chreu Llyfrau Artistiaid â Llaw.
Dros y 15 mlynedd diwethaf mae wedi sefydlu perthynas gydweithredol agos gydag Academïau Celf Pwylaidd, gan arwain at ystod amrywiol o weithdai amlddisgyblaethol, cynadleddau rhyngwladol a phrosiectau ymchwil cydweithredol.