
Gweledigaeth a Strategaeth 2030
Ni yw Prifysgol Wrecsam: yn grymuso a thrawsnewid pobl a lleoedd trwy Addysg Uwch.
Ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol ddinesig fodern sy’n arwain y byd, yn ymwneud yn rhanbarthol ac yn fyd-eang, gan gyflwyno sgiliau ac ymchwil effeithiol sy’n ysgogi twf economaidd ac arloesedd er lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ein Nodau
Creu profiad myfyriwr rhagorol, cryfhau ein rôl o fewn Cymru a thu hwnt, a sbarduno ymchwil ac arloesi effeithiol trwy:
- Bod yn Brifysgol Angor a Goleufa Gymru
- Sbarduno Arloesedd a Thrawsnewid Llwyddiannus

Ein themau craidd
Adeiladu arweinwyr yfory trwy gydweithio cymunedol cryf, partneriaethau dylanwadol, ac addysgu eithriadol.
Ein Profiadiau a'n Cyfleoedd i Myfyrwyr.
Ein Pobl, Lleoedd a Phartneriaethau.
Ein Hymchwil a Menter.
Ein gwerthoedd craidd
Rhagoriaeth
Ein myfyrwyr, staff, cymunedau, partneriaid a chenedlaethau'r dyfodol sy'n haeddu'r gorau. Yn unigol ac ar y cyd, rydym yn ymdrechu i sicrhau ansawdd a rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn.
Cynhwysiad
Rydym yn trin pawb â charedigrwydd, urddas a pharch. Rydym yn gweithredu gydag uniondeb er lles pawb. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiant, tegwch ac amrywiaeth yn weithredol trwy ein diwylliant, ein hamgylchedd a'n gweithredoedd.
Cydweithio
Credwn fod cydweithredu a phartneriaeth yn datgloi atebion. Rydym yn gweithio mewn partneriaethau gweithredol gyda’n myfyrwyr, ein cydweithwyr, ein partneriaid a’n cymunedau i gyflawni ein gweledigaeth a gwireddu ein huchelgeisiau cyfunol.
Trawsnewidiad
Rydym yn arloesol ac yn uchelgeisiol yn ein hymagwedd. Rydym yn llysgenhadon newid sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy effaith drawsnewidiol i sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
Cynaliadwyedd
Rydym yn gweithredu mewn ffordd gynaliadwy, gan sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol wrth wraidd ein penderfyniadau a’n gweithredoedd.
Llunio'r Dyfodol gyda Buddsoddiadau Campws
Mae ein strategaeth £80m i drawsnewid ein campysau a chyfoethogi profiad myfyrwyr yn cyd-fynd â'n gweledigaeth i fod yn brifysgol ddinesig fodern sy'n arwain y byd - yn grymuso myfyrwyr, yn meithrin arloesedd, ac yn ysgogi effaith leol a byd-eang.







.jpg)