David Subacchi
Llywodraethwr Annibynol
Penodwyd ym mis Medi 2016
Mae David Subacchi yn syrfeiwr siartredig, wedi cyhoeddi ei waith ysgrifennu ac yn gyn uwch was sifil â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Graddiodd yn y Gyfraith o Brifysgol Lerpwl ac mae ganddo o lu o flynyddoedd o brofiad o faterion cyfreithiol a materion yn ymwneud ag eiddo. Yn ystod y 10 mlynedd cyn ei ymddeoliad yn 2014 bu’n gweithredu mewn nifer o rolau Cyfarwyddwr yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Roedd y rhain yn cynnwys bod yn gyfrifol am strategaeth, llunio polisi, arweinyddiaeth, rheoli newid a darpariaeth weithredol yn ogystal â chynghori Gweinidogion a gweision sifil eraill.
Mae David wedi byw yn Wrecsam am dros 30 mlynedd ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl.
Mae’n parhau i wneud gwaith gwirfoddol ym meysydd y gyfraith ac addysg ar lefel uwch ac mae’n aelod o Bwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar y Gymraeg.
Yn ei amser hamdden mae David yn mwynhau’r gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yn Wrecsam a’r ardal amgylchynol. Cyhoeddwyd pum cyfrol o’i farddoniaeth yn Saesneg, un yn y Gymraeg ac mae’n ysgrifennu mewn Eidaleg hefyd.