Derwyn Owen
Llywodraethwyr Annibynnol

Roedd Derwyn yn Bennaeth Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol a Landlordiaid yng Nghyngor Dinas Lerpwl tan ddiwedd mis Awst 2023, ac mae ganddo brofiad blaenorol cynhwysfawr o drawsnewid a rheoli gwasanaethau o fewn y sectorau cyhoeddus, preifat ac addysg uwch.
Ar hyn o bryd, mae'n Aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn ogystal ag Ysgrifennydd a chyn-Lywydd Cymdeithas Penseiri Gogledd Cymru ac yn gyn Aelod o Fwrdd Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru.
Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Arweinydd Optimeiddio Landlordiaid Corfforaethol ac Asedau yng Nghyngor Sir Derby, a Phennaeth Eiddo Corfforaethol a Gwasanaethau Landlordiaid yng Nghyngor Walsall ynghyd â swydd Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Gwasanaethau Campws ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr a Phennaeth Eiddo Cyngor Conwy, lle bu'n gweithredu ac yn cyflawni arbedion effeithlonrwydd, gwelliannau i berfformiad busnes, aliniadau cwsmeriaid, cyflunio systemau a chynhyrchu incwm ochr yn ochr â’i ymrwymiadau Undebau Llafur.