Diane McCarthy
Llywodraethwr Annibynol
Penodwyd Gorffennaf 2021
Magwyd ac addysgwyd Diane ym Manceinion ac astudiodd Ffrangeg ac Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Caeredin ac Université Grenoble Alpes. Bu’n byw a gweithio yng ngogledd Cymru am dros chwarter canrif ac mae’n uchelgeisiol a gobeithiol am y rhanbarth, y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma a’r posibiliadau i’r dyfodol. Creda fod prifysgol gref a hyderus yn allweddol i fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ein rhanbarth ac mae’n awyddus i ddarparu pa bynnag gymorth a chefnogaeth y medr i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn y cyfnod cyffrous hwn yn ei hanes.
Mae gyrfa Diane hyd yma wedi cynnwys bancio rhyngwladol, rheoli adwerthu a gwasanaethau ariannol. Hi yw Prif Weithredwr Esgobaeth Llanelwy ar hyn o bryd ac mae ganddi brofiad eang o ddatblygu strategaethau ac arwain rhaglenni newid sefydliadol a diwylliannol.
Mae Diane yn mwynhau’r theatr, cerddoriaeth fyw o bob math ac mae’n rhedwr ara deg iawn yn ei hamser hamdden!