Ebony Banks

Swyddfa'r Ysgrifenyddiaeth

Dechreuodd Ebony yn y Brifysgol fel myfyriwr yn 2015, gan gwblhau ei gradd israddedig mewn Rheoli Digwyddiadau a Thwristiaeth Lletygarwch, cyn ymgymryd â’i gradd Meistr Gweinyddiaeth Fusnes. 

Gwasanaethodd Ebony fel Is-Lywydd Undeb y Myfyrwyr a Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Wrecsam rhwng 2019-2020 a 2020-2021. Yn ystod y cyfnod hwn, gwasanaethodd Ebony fel Llywodraethwr Fyfyriwr a chynhaliodd nifer o ymgyrchoedd yn ymwneud ag iechyd meddwl, iechyd menywod, a chynaliadwyedd. 

Yn dilyn ei chyfnod fel swyddog sabothol, dechreuodd Ebony ei gyrfa’n gweithio fel gweinyddwr yn swyddfa Prif Swyddog yr Is-Ganghellor, lle gwnaeth hi hefyd ymgymryd ag ystod o gyrsiau byr ymarferol, gan gynnwys hyfforddiant cymorth cyntaf, hyfforddiant swyddog tân, hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, a rheolaeth ddiogel IOSH, cyn dechrau ei swydd fel Rheolwr Ysgrifenyddiaeth. 

Fel rhan o’i swydd, mae Ebony yn rhoi cymorth i’r Cyngor Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol ac i Fwrdd y Llywodraethwyr.