James Dawson

Cyfarwyddwr Cysylltiol Cynllunio Strategol

Ymunodd James â'r Brifysgol ym mis Gorffennaf 2015 i arwain y Swyddfa Cynllunio Strategol oedd newydd ei sefydlu. Mae'n gyfrifol am arwain y broses gynllunio a datblygu Fframwaith Strategol y Brifysgol, yn ogystal â darparu'r wybodaeth fusnes sylfaenol a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau gan yr uwch dîm rheoli a'r Llywodraethwyr.

Mae James wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa broffesiynol mewn Addysg Uwch, ledled Cymru a'r DU yn ogystal â chyfnod gyda CCAUC lle bu'n arwain ar sefydlu a rheoli'r Rhaglen Cyflogadwyedd GO Wales dros Gymru gyfan.  Yn ystod ei gyfnod yn AU mae James wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys gwella a sicrwydd ansawdd academaidd, datblygu staff, trosglwyddo gwybodaeth, rheoli prosiectau Ewropeaidd, datblygu partneriaethau, datblygu myfyrwyr a chyflogadwyedd graddedigion. Yn ychwanegol at hyn mae profiad yn y sector preifat a chyfnod diddorol iawn fel ymchwilydd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yn fwyaf diweddar, cyn ymuno â'r Brifysgol, roedd James yn arwain ar drawsnewid corfforaethol yng Nghyngor Sir Ynys Môn gyda ffocws penodol ar newidiadau yn y ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol a sut i gwrdd â phatrymau galw cynyddol a newidiol gyda sylfaen adnoddau sy'n lleihau. Mae ei ddiddordeb mewn ysgogi a chefnogi newid cynaliadwy mewn sefydliadau ac mewn datblygu a chyflwyno strategaethau, ac mae'n ystyried cynllunio strategol yn allweddol i gyflawni'r rhain.