Yr Athro Joe Yates

Is-Ganghellor

Ymunodd yr Athro Joe Yates â Phrifysgol Wrecsam fel ein Is-Ganghellor newydd ym mis Awst 2024 o’i swydd Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau, Astudiaethau Proffesiynol a Chymdeithasol a Dirprwy Is-Ganghellor Lle a Phartneriaeth ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.

Cyflawnodd yr Athro Yates radd BA mewn Hanes, Gwleidyddiaeth a’r Cyfryngau, ac aeth ymlaen i dderbyn ei DPhil mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn 2007 o Brifysgol De Montfort. Enillodd MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Nottingham ac mae’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac yn Swyddog Prawf hyfforddedig. Treuliodd 15 mlynedd yn gweithio ym maes polisi cymdeithasol a chyfiawnder troseddol fel gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cyfiawnder ieuenctid a rheolwr troseddau ieu enctid.

Yn 2007, ymunodd â Phrifysgol John Moores Lerpwl fel Pennaeth Troseddeg lle sefydlodd a chyd-gyfarwyddo’r Ganolfan Astudio Troseddu, Troseddoli ac Allgáu Cymdeithasol. Yn 2011 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Ysgol y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu Canolfan Astudiaethau Plismona Uwch Lerpwl (Liverpool Centre for Advanced Policing Studies).

Gan ddangos ymrwymiad clir i ragolygon pobl ifanc, addysg a chyfiawnder cymdeithasol, mae’r Athro Yates wedi cynnal amrywiaeth o swyddi gwirfoddol ar gyrff llywodraethu gwahanol ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Symposiwm Cyfiawnder Ieuenctid Rhyngwladol yn y Ganolfan Ryng-Brifysgol yng Nghroatia ac yn Gadeirydd y Bwrdd Llywodraethu Rhanbarthol ar gyfer Cradle to Career, rhaglen ar lawr gwlad sy’n seiliedig ar le sy’n dod â phobl a sefydliadau ynghyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ar draws Dinas-ranbarth Lerpwl.

Mae’r Athro Yates yn Athro mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol ac mae wedi ymchwilio a chyhoeddi ym maes cyfiawnder ieuenctid gyda ffocws penodol ar ymatebion polisi i blant ymylol sy’n ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae wedi cynnal ymchwil ar gyfer y Coleg Plismona, y Swyddfa Gartref a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn ogystal ag ar gyfer amrywiaeth o grwpiau cymunedol, sefydliadau anllywodraethol ac elusennau.

Ar gael ei benodi, meddai’r Athro Yates: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Is-Ganghellor nesaf Prifysgol Wrecsam. Mae gan Brifysgol Wrecsam draddodiad deallusol balch ac ymdeimlad dwfn o bwrpas. Mae’r ymrwymiad dilys i gynhwysiant yn nodwedd allweddol o’r Brifysgol ac yn rhywbeth rwy’n ei rannu. Mae ymdeimlad gwirioneddol o gyffro ac egni o amgylch dyfodol y Ddinas a’r Brifysgol. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o Wrecsam – gweithio mewn partneriaeth â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid i gyflwyno’r sgiliau, yr arloesedd a’r ymchwil sydd eu hangen i gefnogi twf cynhwysol a ffyniant i genedlaethau’r dyfodol yn y Ddinas, Gogledd Cymru a’r rhanbarth ehangach.”