Joy Morton
Swyddfa'r Ysgrifenyddiaeth

Joy Morton yw’r Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am faterion llywodraethu a chyfreithiol yn y Brifysgol. Yn aelod o dîm Gweithredol yr Is-ganghellor, mae Joy yn gweithio’n agos gyda Chadeirydd y Llywodraethwyr a'r Is-ganghellor drwy’r Ysgrifenyddiaeth.
Fel Ysgrifennydd y Brifysgol, mae Joy yn gweithio i sicrhau’r safonau llywodraethu gorau mewn cyswllt â Chadeirydd y Bwrdd, yr Is-ganghellor a Thîm Gweithredol Is-ganghellor y Brifysgol.
Fel Clerc i’r Bwrdd, mae hi’n atebol i’r Bwrdd drwy’r Cadeirydd ac yn adrodd i Gadeirydd y Bwrdd yn ogystal â’r Is-Ganghellor yn ei swydd ddeuol. Mae Joy yn cynnig cyngor a chymorth strategol, annibynnol i’r Bwrdd, gan gynnwys ynglŷn â’u pwerau a’u gweithdrefnau.
Yn ei swydd fel Cynghorydd Cyffredinol, mae Joy yn gyfrifol am ddarparu cyngor cyfreithiol strategol i’r Brifysgol, yn ogystal â goruchwylio gwasanaethau cyfreithiol, llywodraethiant gwybodaeth (hi yw’r swyddog diogelu data ar gyfer y Brifysgol hefyd), archwiliad mewnol, risg, cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg a gweinyddiaeth llywodraethiant corfforaethol y Bwrdd a’r pwyllgorau priodol. Yn ogystal, mae hi’n rheoli cyfathrebu yn ôl ac ymlaen o Medr fel y prif reoleiddiwr ar gyfer digwyddiadau adroddadwy a hysbysadwy, gan sicrhau cydymffuriaeth ag egwyddorion llywodraethiant buddion y cyhoedd, amodau cofrestru parhaus.
Mae Joy hefyd yn aelod o Dribiwnlys Prisio Lloegr.