Liam Wynne
Llywodraethwr Annibynol
Penodwyd ym mis Medi 2022
Mae Liam yn brofiadol a sgiliedig iawn, ac mae’n arbenigo mewn tyfu busnesau llwyddiannus, trwy uno a chaffael ac mae’n gweddnewid hynt mentrau aflwyddiannus. Mae ei arbenigedd penodol ym maes llunio ac arwain timau llwyddiannus sy’n rhannu gweledigaeth ar y cyd hyd at bwynt gwerthu’r cwmni. Mae’n gwneud hyn yn achos pryniannau gan gwmnîau masnachol a chwmnîau ecwiti preifat.
Yn dilyn cwblhau MBA yn llwyddiannus a dwy rownd o fuddsoddi ecwiti preifat a arweiniodd at dyfu ei fusnes i drosiant o £75 miliwn, yn cyflogi dros 350 o staff, mae Liam bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Anweithredol, yn cynorthwyo’r rhai sy’n awyddus i ddilyn trywydd llwyddiannus tebyg o gyflawni potensial eu busnes a’u potensial personol.
Mae’n hanu o Wrecsam ac wedi astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr ddwywaith, gan ennill gradd BSc Anrhydedd mewn Gwyddor Cyfrifiadurol yn gyntaf ac yna MBA, mae Liam bellach yn un o Lywodraethwyr y Brifysgol lle mae’n cynorthwyo’r sefydliad i dyfu’n gynaliadwy, gan sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar yr holl sgiliau a rhinweddau ar gyfer cyflogaeth yn y gweithle modern.