Lucy Scott
Lywodraethwyr Annibynnol

Graddiodd Lucy o Brifysgol New Mexico gyda BA mewn Cyfathrebu Torfol, ar ôl mynychu ar ysgoloriaeth tennis, ac yn ddiweddarach, astudiodd MA mewn Marchnata ym Mhrifysgol Durham, ynghyd â gweithio mewn swydd fel Prif Hyfforddwr Tennis yn y brifysgol.
Mae gan Lucy brofiad sylweddol ar lefel uwch arweinyddiaeth a lefel Bwrdd gan gynnwys mewn swyddi Prif Swyddog Gweithredol a swyddi gyda’r Bwrdd ac fel Ymddiriedolwr. Ar hyn o bryd, mae Lucy yn Brif Swyddog Gweithredol mewn elusen yn y DU, yn Ymddiriedolwr yn y Sports Council Trust Company, yn elusen Sport England ac yng Nghanolfan Padel a Thennis Wrecsam.
Mae Lucy wedi bod yn ymwneud â chwaraeon ers dros 30 o flynyddoedd, ac wedi cynrychioli timau Cymru, gogledd Cymru a thennis myfyrwyr Prifysgolion Prydain. Mae Lucy yn hyfforddwr tennis Lefel 4, yn hyfforddwr padel Lefel 2 ac yn diwtor addysg hyfforddiant, ac mae hi wedi hyfforddi chwaraewyr tennis o lawr gwlad hyd at lefel ryngwladol.
Mae Lucy yn dod o Wrecsam, yn gefnogwr gydol oes o Glwb Pêl-droed Wrecsam ac yn frwdfrydig iawn dros roi’n ôl i fro ei mebyd. Ar ôl gyrfa yn cynnwys chwaraeon a dysgu, mae Lucy’n edrych ymlaen at gyfuno’r ddau beth angerddol hyn fel Llywodraethwr ym Mhrifysgol Wrecsam.