Mike Hamer

Lywodraethwyr Staff

Yn dod o yrfa amrywiol yn yr Amgylchedd Adeiledig, ymunodd Mike â’r Brifysgol fel Pennaeth Rheolaeth Ystadau a’r Campws ym mis Mawrth 2016.  Yn saer coed wrth alwedigaeth, dilynodd nifer o flynyddoedd o astudio a datblygu parhaus a arweiniodd at Mike yn cael dyfarniad Gradd mewn Rheolaeth Cynnal a Chadw Adeiladau o Brifysgol Cymru yn 2007.   

Yn chwilio am y cydweithrediad nesaf o hyd, mae Mike mewn cyswllt rheolaidd â staff, myfyrwyr, cyfoedion yn y sector AU ac asiantaethau lleol, yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau i alluogi newid amgylcheddol cadarnhaol.  Ers ymuno â’r Brifysgol yn 2007, mae Mike wedi ymgymryd â nifer o gynlluniau moderneiddio i wella’r amgylchedd dysgu mewnol ac allanol.  Mae dyhead i leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni yn ganolog i unrhyw gynllun, ynghyd â chyflwyno technolegau adnewyddadwy a fydd yn paratoi’r ffordd ar daith y Brifysgol i sero net.   Yn ‘Hyrwyddwr Gwyrdd’ brwdfrydig ac yn aelod gweithredol o Fforwm Gweithredu Cynaliadwyedd y Brifysgol, mae Tîm Mike yn gyfrifol am weithredu a monitro mentrau er mwyn cyflawni targedau allweddol a amlinellir yn Strategaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd y Brifysgol.

Mae Mike yn frwdfrydig dros gynaliadwyedd yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, gan ymgymryd â dull ymarferol o adeiladu cadwraeth, adfer cynefinoedd gwyllt a gwella camlesi. Mae’n bysgotwr plu brwd, gyda diddordeb mewn diogelu Brithyll Brown Gwyllt ac Eog yr Iwerydd, gan dreulio llawer o’i amser rhydd gyda’r Glas y Dorlan a’r Mwyeilch ar lannau’r Afon Dyfrdwy.