Sam Hale

Llywodraethwyr Annibynnol

Astudiodd Sam Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Caerhirfryn cyn dechrau ei yrfa yn y maes bancio ym Manc y Co-operative. Ar hyn o bryd, mae Sam yn arwain swyddogaeth y Trysorlys mewn banc ‘start up’ yn Wrecsam, sy'n gyfrifol am reoli risgiau darbodus a phortffolio buddsoddi'r cwmni.

Mae Sam hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer undeb credyd, gan gymhwyso ei arbenigedd mewn rheoli asedau bancio ac atebolrwydd i sicrhau iechyd ariannol yr undeb. Mae ei brofiad o lywodraethu yn ymestyn i wahanol elusennau a sefydliadau addysgol, gan gynnwys ei rôl yn y gorffennol ar Bwyllgor Cenedlaethol Aelodau Grŵp y Co-operative, Cyngor Ieuenctid Prydain a sawl corff llywodraethu ysgolion.

Mae Sam wedi cymhwyso fel trysorydd corfforaethol (CertT), trysorydd bancio (CertBALM) ac mae ganddo radd Meistr mewn Bancio a Chyllid o Brifysgol Keele. Yn wreiddiol o Stoke-on-Trent, mae Sam yn teimlo cysylltiad cryf â Wrecsam ac mae'n angerddol am feithrin perthnasoedd cadarn 'tref a gŵn' i wella effaith gadarnhaol y brifysgol ar y gymuned leol.