Yr Athro Martin Chambers
Llywodraethwr Annibynol
Penodwyd ym mis Medi 2021
Wedi ei eni a’i fagu ym Manceinion, mae cartref Martin yng Ngogledd Cymru nawr. Mae’n berchennog pysgodfa brithyll Tan-y-Mynydd yn sir Conwy.
Martin oedd Llywydd y Sefydliad Siartredig Adeiladu yn 2007/8 ac mae’n athro gwadd yn Adran Pensaerniaeth a’r Amgylchedd Adeiledig ym Mhrifysgol San Steffan, Llundain.
Roedd Martin yn llywodraethwr Prifysgol Wolverhampton rhwng 2010 a 2021, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n cadeirio Pwyllgor Ystadau a Chyfleusterau’r Bwrdd a daeth yn Ddirprwy Gadeirydd y Bwrdd.
Mae gyrfa Martin wedi’i weld yn arwain rhai o raglenni gwaith adeiladu mwyaf arobryn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain wedi cynnwys y rhaglen £1.3 biliwn Ysgolion i’r Dyfodol yn Birmingham, ailddatblygiad Gorsaf New Street Birmingham gan Network Rail gwerth £750 miliwn, y prosiect adfywio Eastside City yn Nottingham gwerth £900 miliwn a chytundeb £1 biliwn Prosiect SLAM Prime yr Ystadau Amddiffyn.
Cafodd nifer o lwyddiannau mawr yn ystod ei yrfa hyd yma, yn cynnwys ennill gwobr ‘Cyflawnydd y Flwyddyn’ Rhagoriaeth Adeiladu yn 2014 a ‘Rheolwr Prosiect Ifanc y Flwyddyn’ y Gymdeithas Rheoli Prosiectau yn 1995.
Bu gan Martin nifer o benodiadau allanol dros y blynyddoedd, yn cynnwys:
- Cyfarwyddwr Anweithredol Millennium Point Property Ltd
- Cadeirydd Anweithredol Family Housing Association (Birmingham) Ltd
- Ymddiriedolwr etholedig y Sefydliad Siartredig Adeiladu a’i Gronfa Les
- Cadeirydd Annibynnol Pwyllgor Safonau Gwasanaeth Tân ac Achub West Midlands
- Aelod Bwrdd Syrfeiwyr Siartredig Rhyngwladol (QSi) y Deyrnas Unedig ac Iwerddon