Students discussing results after using a simulation dummy

Astudiwch Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam

Cychwynnwch ar yrfa foddhaus a pharatoi'r ffordd ar gyfer dyfodol gofal iechyd ar un o'n graddau Nyrsio.

Gyda lleoedd ar gael ym mis Mawrth a mis Medi 2025 ar gyfer ein cyrsiau Nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl a chyfle i ymuno â’r cwrs Nyrsio Plant ym mis Medi 2025, nawr yw’r amser perffaith i gymryd y cam nesaf ar eich taith! 

Ar draws ein campysau Plas Coch a Llanelwy, byddwch yn elwa o dechnoleg arloesol a chyfleusterau o’r radd flaenaf, gan roi mantais i chi pan fyddwch yn gymwys.  

Mae ein cyrsiau Nyrsio yn uchel eu statws, gan ddod yn 1af yn y DU am Ansawdd Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, ac yn Gydradd 1af ar gyfer Rhagolygon Graddedig yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times a Sunday Times, 2025.  

Efallai y bydd gennych hefyd hawl i fwrsariaeth GIG lawn i ariannu’r cwrs hwn, gan gynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth na ellir ei had-dalu am gostau byw, os ydych yn gymwys ac yn cytuno i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cofrestru. 

Archebwch Ddiwrnod Agored

Content Accordions

Cymerwch gipolwg

Camwch i ddyfodol addysg gofal iechyd gyda’n cyfarpar addysgu arloesol. Mae ein horiel ddelweddau’n dangos pa mor ardderchog yw cyfleusterau gofal iechyd ein prifysgol, lle ceir cyfarpar o’r radd flaenaf a all droi dysgu yn brofiad dynamig ac ymgollol.