Dechwelyd i addysg
Rydym yn credu na ddylai oed fod yn rhwystr i wneud gradd; os rywbeth, gall dychwelyd i addysg hwyrach yn eich bywyd eich manteisio oherwydd y sgiliau, cymhelliant a phrofiad rydych yn dod hefo chi.
<YOUTUBE VIDEO CATHY>
Mae yna nifer o resymau bod myfyrwyr hŷn yn dychwelyd i addysg; o ddilyniant gyrfaol i ddiddordeb personol syml.
Beth bynnag ydi’ch rheswm i eisiau astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, rydym yn deall gall eich anghenion fod yn wahanol i’r rheini o ymadawyr ysgol 18 blwydd oed, felly rydym yn gobeithio bydd y wybodaeth ddilynol yn eich helpu i ddarganfod y llwybr iawn.
Gallwch astudio yn llawn-amser neu'n rhan-amser yn y brifysgol fel myfyriwr hŷn hyd yn oed os nad oes gennych gymwysterau traddodiadol - gallwch hefyd ymgeisio am gyllid(LINK). Bydd faint rydych yn derbyn yn dibynnu ar eich sefyllfa deuluol a’r math o gwrs rydych yn gwneud - mae’n bosib gallwch dderbyn cymorth ychwanegol os oes gennych chi blant.
Anghenion Mynediad
Mae anghenion mynediad cyrsiau yn amrywio - gall rai gofyn am gymwysterau proffesiynol neu brofiad gwaith perthnasol. Gall eraill angen:
- Lefel A
- Cwrs Fynediad i Addysg Uwch
- NVQ, BTEC neu gymwysterau eraill yn y gwaith
Os nad ydych yn cyrraedd yr anghenion mynediad safonol ar gyfer ein rhaglenni tair blynedd, efallai hoffech chi gysidro gwneud Blwyddyn Sylfaenol.
Astudio Cwrs Sylfaenol
Petai fod gennych chi gymwysterau anhraddodiadol, eich bod eisiau astudio pwnc sy’n newydd i chi neu eich bod wedi cael seibiant o addysg ac yn dymuno dychwelyd, bydd y flwyddyn ‘kick start’ yma yn rhoi’r cyfle o fynediad ar radd anrhydedd llawn i chi.
Mae ein rhaglenni sylfaenol, fel arfer, yn bedwar blynedd o hyd, yn caniatáu blwyddyn ychwanegol i chi ennill sgiliau a gwybodaeth sydd yn angenrheidiol am astudio i lefel gradd.
Unwaith rydych wedi pasio’r flwyddyn sylfaenol, byddwch yn dilyn ymlaen i’r flwyddyn gyntaf o'ch rhaglen gradd ddewisol yn awtomatig.
“Gefais wybod am y flwyddyn sylfaenol yma ac ni rwyf erioed wedi sbïo yn ôl. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth i fi fy hun nawr mae fy mhlant mewn addysg lawn-amser ac roedd y cwrs yn ffitio’n wych o gwmpas bywyd teuluol.”
- Rebecca, myfyrwraig Cyfrifeg a Chyllid