8 RHESWM I DDYSGU RHYWBETH NEWYDD

Students laughing

Pa un ai a ydych chi am ddatblygu eich gyrfa, canfod swydd newydd, newid cyfeiriad neu ddysgu er pleser, gall dysgu rhywbeth newydd fod o fudd ichi mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

Dyma 8 rheswm i ddysgu rhywbeth newydd ym Mhrifysgol Wrecsam.

1. Rhoi hwb i’ch rhagolygon am swyddi

Gall dysgu rhywbeth newydd eich helpu i wella rhagolygon eich gyrfa. Mae dewis cwrs sydd yn gysylltiedig â’r yrfa rydych chi am ei dilyn yn dangos eich bod yn defnyddio’ch mentergarwch, eich bod yn barod i ddysgu a phwysicaf oll, fod gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd sydd yn mynd â’r bryd.

2. Dysgu sgil

Os ydych chi’n meddwl am roi cynnig ar rywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb ichi ers sbel, ond heb gael y cyfle i roi tro arni, mae’n bosib y bydd un o’n dosbarthiadau nos yn gweddu i’r dim. (Ac rydym yn eithaf balch o’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael!) Gall myfyrwyr ddysgu sut i wneud gemwaith, defnyddio rhaglenni TGCh neu hyd yn oed gofnodi lleoliad trosedd!

3. Gwneud ffrindiau newydd

Rydych yn ennill mwy na gwybodaeth wrth ymrestru ar gwrs. Fe welwch eich bod ymysg pobl o’r un anian yn ogystal â phobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau sydd â diddordeb yn yr un peth â chi – Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd.

4. Canfod diddordeb newydd

Mae gennym ystod o gyrsiau byr. Hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw brofiad, rhowch gynnig arni! Mae’n bosib y cewch chi fwynhad mawr ac y byddwch chi am barhau.

5. Ennill cymhwyster

Pa un ai a yw’n gwrs byr, yn radd neu PhD, gall ennill cymhwyster fod yn gam fydd yn newid eich bywyd. Os nad ydych yn sicr pa lefel sydd yn iawn i chi, cysylltwch â’n tîm ymholiadau a fydd yn barod i’ch helpu.

6. Gwella eich hun

Efallai’ch bod chi wedi gorffen gradd rai blynyddoedd yn ôl a bellach mae’n amser symud ymlaen i lefel ôl-raddedig? Efallai fod gennych chi ddiploma ac yn barod i fynd amdani gyda chwrs gradd. Os buoch chi’n meddwl am gymryd y cam nesaf, cymrwch olwg ar ein cyrsiau.

7. Bydd cefnogaeth ar gael

Yma yng Wrecsam rydym yn cynnig llawer o gefnogaeth i bob un o’n myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau a thu hwnt. Felly, pa un ai a ydych yn dychwelyd i addysg wedi blynyddoedd lawer, neu eich bod am roi tro ar rywbeth hollol wahanol, rydym ni yma i’ch cefnogi chi gyda phopeth o gymorth Dyslecsia i gyngor am yrfaoedd a sgiliau astudio.

8. Dewch o hyd i’ch galwad

Gall rhywbeth sy’n cychwyn fel diddordeb potensial ddatblygu i fod yn yrfa neu fusnes llewyrchus. Wedi’r cyfan, bywyd yw’r hyn wnewch chi ohono fo - Wyddoch chi byth nes eich bod chi’n rhoi cynnig arni!

Darllenwch fwy am ein cyrsiau byrgraddau israddedig a graddau ôl-raddedig yma. Neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch enquiries@wrexham.ac.uk