Colocwiwm Ymchwil Gyrfa Gynnar, Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Prifysgol Bangor, Mehefin 2024 

Eleni, roedd cynrychiolaeth dda o Brifysgol Wrecsam yn y Colocwiwm Ymchwil Gyrfa Gynnar ym mis Mehefin ym Mhrifysgol Bangor. 

  • Fe wnaeth Dr Gwennan Haf Barton, Darlithydd mewn Seicoleg Wybyddol a Dr Sanar Muhyaddin, Darlithydd mewn Busnes, gyflwyno ‘Fflach-Sgyrsiau’ 
  • Fe wnaeth Dr Tristian Evans, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol ar gyfer Llwyfan Map Agored Cymunedol a Paula Wood, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Cenhadaeth Ddinesig, gyflwyno posteri 

Dyma beth ddywedodd y tîm am y diwrnod: 

“Ar 18 Mehefin, bûm yn ddigon ffodus i fynychu Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gynnar Gyrfa Cymdeithas Ddysgedig Cymru a chyflwyno gweithdy o’r enw ‘Meithrin Ymgysylltiad Moesegol: Blaenoriaethu Lles mewn Ymchwil Sensitif’. Roedd y gweithdy'n canolbwyntio ar ddefnyddio lens wedi’i lywio gan drawma wrth wneud ymchwil, trwy ystyried sut rydym yn cadw cyfranogwyr a ni ein hunain yn ddiogel ac yn iach trwy gydol ymdrechion ymchwil. 

Roedd yn hyfryd cael mynychu gyda chydweithwyr o wahanol adrannau ym Mhrifysgol Wrecsam, i glywed eu fflach-sgyrsiau a gweld eu posteri anhygoel. Mae bob amser yn bleser mynychu cynadleddau a chlywed am yr holl waith ymchwil diddorol sy'n digwydd yng Nghymru. Roedd thema’r fflach-sgyrsiau yn y colocwiwm yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a helpodd i ddeall y ffyrdd y mae ymchwil yn ffurf ar weithredu. 

Rhan orau’r profiad oedd cael ymchwilwyr yn cysylltu â mi ar ôl y colocwiwm i wneud cysylltiadau am ein gwaith a thrafod ffyrdd o gydweithio yn y dyfodol* – ‘Ni all neb chwibanu symffoni. Mae’n cymryd cerddorfa gyfan i’w chwarae’ ~ H. E. Luccock. 

*a’r brownis siocled!” 

-Tegan


“Darparodd y digwyddiad le gwych, cyfeillgar a phroffesiynol i rannu canfyddiadau ymchwil, gan i mi gael fy nerbyn i gyflwyno fflach-sgwrs ar ein darn o ymchwil cydweithredol, ‘Staff Niwroamrywiol yn Addysg Uwch y DU’ ar ran ein tîm ymchwil. Roedd cyflwyno’r fflach-sgwrs a chael amgylchedd mor groesawgar yn bendant wedi rhoi hwb i mi wrth i mi ddychwelyd i gyflwyniadau cynhadledd wyneb yn wyneb, yn enwedig ers gorffen fy PhD yn ystod oes Covid a thirweddau cyfnewidiol cyflwyniadau. 

Roedd yn braf gwrando ar fflach-sgyrsiau gan Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar eraill (gan gynnwys Dr Sanar Muhyaddin ac Engin Ackay) drwy gydol y dydd, a oedd yn rhoi sylw i bynciau pwysig a oedd yn dathlu thema Cymru gysylltiedig, yn amrywio o ddefnyddio dysgu seiliedig ar gêm mewn Addysg Uwch (Jana Oehlke) i hyder mewn cyswllt rhyng-hiliol ac ymchwiliad i wella sgyrsiau am hil (Dr Caitlin Baker). Cafwyd cyflwyniadau poster gwych gan fy nghydweithwyr Dr Tristian Evans a Paula Wood! At hynny, creodd y fflach-sgyrsiau a’r cyflwyniadau poster awyrgylch gwych i rwydweithio ag Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, academyddion, cydweithwyr o rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar y Gymdeithas Ddysgedig a’r Academi Brydeinig. Roedd yn wych cael cynrychiolwyr yno o Wyddor Gofal Iechyd Cymru (gan gynnwys Brogan Cabraal), yr oeddwn yn gallu cysylltu â nhw a thrafod datblygiad cynyddol yn eu sector a rhai posibiliadau cyffrous ar gyfer ymchwil cydweithredol yn y dyfodol! 

Cafwyd gweithdai gwych drwy gydol y dydd a oedd yn trafod rhai meysydd ymchwil hanfodol, fel blaenoriaethu lles mewn ymchwil sensitif gan un o’n criw ni, Dr Tegan Brierley-Sollis. Roedd prynhawn y colocwiwm yn canolbwyntio ar weithdy ysgrifennu ceisiadau am grantiau ymchwil, rhywbeth a oedd yn ddefnyddiol iawn i mi. Roedd yn galonogol clywed y profiadau cadarnhaol, yr heriau, a chyngor gan y panel ac aelodau’r gynulleidfa; roedd natur ryngweithiol a gonest y sesiwn yn ddefnyddiol iawn i mi. 

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru, am y cyfle i gyflwyno, eu cefnogaeth barhaus, ac am greu amgylchedd mor wych i fod yn rhan ohono. 

Byddwn yn bendant yn argymell mynychu'r colocwiwm yn y dyfodol i unrhyw Ymchwilydd Gyrfa Gynnar. Mae amrywiaeth o gymorth teithio a llety i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar. Mae wedi bod yn brofiad amhrisiadwy sydd wedi rhoi cefnogaeth, cynhesrwydd, ymdeimlad newydd o ysbrydoliaeth a chyfle i mi gamu o’m parth cyfforddus gydag unigolion sy’n frwd dros ymchwil!” 

-Gwennan 


 

“Roedd yn wych mynychu Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar, gyda chyd-ymchwilwyr o Wrecsam. Roeddwn yn falch iawn o fod wedi gallu cyflwyno poster ar weithgareddau mapio diwylliannol y Llwyfan Map Cyhoeddus o fewn cyd-destun thema’r colocwiwm, sef ‘Cymru Gysylltiedig’. Mae’r thema hon â chyswllt cryf â’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan ein tîm o feirdd ac ymchwilwyr yn yr Ysgol Gelf fel rhan o’r prosiect mapio cymunedol (ar y cyd â phrifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Bangor), wrth i ni weithio’n greadigol gyda phlant a phobl ifanc ar Ynys Môn, i adlewyrchu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). 

Roedd y digwyddiad nid yn unig yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio traws-sefydliadol, ond hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyngor gwerthfawr – ar ysgrifennu ceisiadau grant llwyddiannus i ddod yn ymwybodol o ddull wedi’i lywio gan drawma fel ymchwilwyr. Roedd y cyfle i wrando ar wybodaeth a phrofiadau academyddion ledled Cymru, sy’n gweithio ar draws pob disgyblaeth, yn fuddiol iawn, ac edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Gymdeithas yn y dyfodol!” 

- Tristian 


 

“Mwynheais y gynhadledd yn fawr a chefais gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr o wahanol ysgolion busnes. Rwyf nawr mewn cysylltiad â nhw, yn archwilio syniadau ymchwil newydd cyffrous a chydweithrediadau posibl. Roedd yn brofiad cyfoethog ac ysbrydoledig.” 

- Sanar