Tîm Addysg yn bresennol yng Nghynhadledd CYAP (Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain)

Yr wythnos diwethaf gyda chefnogaeth gwobr ymchwil a datblygu'r prifysgolion, bu Lisa Formby mewn cynhadledd Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Manceinion.

Mae cynhadledd BERA yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd rannu eu hymchwil a rhwydweithio â chydweithwyr eraill o'r un anian.

Mae Lisa yn rhan o dîm ymchwil o Wrecsam, sy'n cynnwys Dr Sue Horder, Karen Rhys Jones a Tomos Gwydion ap Sion, ac maent wedi bod yn gweithio dros y tair blynedd diwethaf ar brosiect Gwreiddio Ymchwil ac Ymholi mewn Ysgolion (EREiS) a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Roedd eu gwaith ar y cyd â Phrifysgol Bangor yn rhan o symposiwm ac fe'i cyflwynwyd ochr yn ochr â gwaith gan gydweithwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru, sydd hefyd yn rhan o'r prosiect mwy.

Ychydig cyn y gynhadledd, cafodd Lisa wybod bod eu symposiwm wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yn y categori 'Ymchwil addysgol a llunio polisïau addysgol' ac mae hi'n aros i glywed a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.