CEFNOGI'CH PLENTYN DRWY CAIS I'R BRIFYSGOL

A Father and daughter looking at course info

Ble i gychwyn

 

Os yw'ch mab neu ferch yn gwneud cais i brifysgol, yna bydd y broses swyddogol UCAS yn cychwyn yn yr hydref pan maen nhw ym mlwyddyn 13. Fodd bynnag, mae gwerth meddw am bethau ychydig yn gynharach na hyn oherwydd bydd angen amser arnoch i drafod eu hopsiynau e.e. pa yrfaoedd sy'n eu diddori a ble hoffent nhw astudio.

Os oes gan eich glaslanc(es) uchelgeisiau tuag at yrfa arbennig mae'n debygol bydd angen iddynt astudio gradd benodol i'w helpu i'w cyflawni. Gallech eu helpu i ymchwilio pa brifysgolion sy'n cynnig y cyrsiau hyn - chwiliwch ar wefan UCAS, edrychwch ar fanylion cwrs ar wefannau unigol a gofynnwch am brosbectws.

Hyd yn oed os nad ydynt wedi penderfynu ar yrfa eto, ni ddylai hyn eu rhwystro rhag dilyn cwrs maen nhw'n angerddol amdano. Mae anogaeth rhiant yn allweddol yma - gall fod yn hawdd gwrthod chwant eich plentyn i astudio rhywbeth nid yw'n arwain at yrfa amlwg; yn lle hyn canolbwyntiwch ar y wybodaeth a'r sgiliau bydd yn cael eu datblygu a gall agor y drws i lwyth o gyfleoedd.

 

Ymweld â diwrnod agored

 

Un o'r pethau mwyaf pwysig gallwch wneud fel rhiant cefnogol yw mynychu diwrnod agored prifysgol gyda'ch plentyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'ch mab neu ferch i gael blas o fywyd prifysgol a gweld os fydd yn eu gweddu, a bydd hefyd yn helpu'ch perswadio bydd eich plenty annwyl mewn amgylchedd diogel pan maent yn hedfan y nyth!

Ceisiwch beidio gymryd rheolaeth o'r ymweliad eich hunan - bydd eich cael chi yno'n helpu gyda'u hyder, ond eich plentyn ddylai ofyn y cwestiynau. Wrth gwrs fedrwch eu hannog os ydych yn meddwl eu bod wedi anghofio rhywbeth pwysig a does yna ddim cywilydd mewn cymryd nodiadau ar y dydd! Mae rhai prifysgolion yn cynnal sesiynau ar wahân i rieni felly tra mae'ch glaslanc(es) ar daith campws yn gweld y cyfleusterau, gallwch ofyn cymaint o gwestiynau a hoffech chi heb godi embaras arnynt!

 

Helpu gyda'r cais

 

Mae'r broses gwneud cais wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar felly os aethoch chi i'r brifysgol ni fydd y broses yn debyg i pan oeddech chi'n gwneud cais. Rŵan mae'r cais yn cael ei wneud ar-lein drwy UCAS felly mae gwerth cyfarwyddo'ch hunan gyda'u gwefan, ac yn bwysicaf i gyd y dyddiadau a therfynau amser fel eich bod yn gallu atgoffa'ch mab neu ferch ar y pryd. Dyddiad cau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau prifysgol yw Ionawr 15, ond mae gwerth nodi bod y dyddiadau cau ar gyfer rhai cyrsiau llawer cynharach na hen.

Y rhan allweddol, a hwyrach yr un mwyaf heriol, yw'r datganiad personol. Tra gallech annof eich plant i drafod syniadau gyda chi, mae'n bwysig i rieni gydnabod dylai'r datganiad gael ei ysgrifennu'n annibynnol. Peidiwch â bod yn un o'r rhieni hynny sy'n gwneud gwaith cartref eu plant ar eu cyfer - eisteddwch yn ôl a gadael iddynt fynegi'u hunain - mae angen i'w personoliaeth sgleinio drwodd yma. Ond cynigwch ddarllen o drwodd a'i wirio unwaith iddyn nhw ei ddrafftio. Mae angerdd a phenderfyned yn cyfri am lawer, ond mae sillafu a gramadeg da yn hefyd.

 

Cynigion

 


Unwaith mae'r cais wedi ei gyflwyno rhaid aros i gynigion ddod. Os mae'ch plentyn yn derbyn cynnig diamod, maent mewn safle lwcus lle dim ond angen dewis eu hoff gynnig sydd. Os mae prifysgol yn gwneud cynnig amodol bydd diogelu'r rhain yn dibynnu ar eu graddau felly mae cynnig cefnogaeth yn ystod cyfnod arholiadau'n bwysig.

 

Clirio

 

Os nad ydy'ch mab neu ferch wedi derbyn cynigion, heb gael y graddau maen nhw eisiau neu yn rhyw hwyr yn gwneud cais trwy'r sianeli arferol, yna mae clirio yn ddewis iddynt. Mae clirio'n galluogi ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol am le ar gyrsiau sy'n dal i fod â llefydd ar gael.

Mae gwell gan dimau derbyniadau prifysgolion siarad â'r ymgeisydd na rieni neu athrawon felly gadewch iddynt wneud yr alwad ffôn eu hunain. Gall fod yn amser sy'n llawn straen felly'r peth gorau i'w wneud fel rhiant yw annog eich plentyn ac aros yn bositif. Mae prifysgolion eisiau llenwi'u cyrsiau felly mae siawns dda iawn bydd eich merch neu fab dal yn medru astudio'u pwnc dewisol, ond hwyrach bydd rhaid cyfaddawdu rywfaint.

Y peth pwysicaf yw eich bod fel teulu'n hapus gyda'r penderfyniad terfynol a'ch bod yn gallu cefnogi’ch plentyn wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf, cyffrous, eu bywyd.

 

Ysgrifennwyd gan Heather Collin, sy'n gweithio ym maes Cyfathrebu Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.