Croeso i Wrecsam – o ddinas ddiymhongar i sylw Tinseltown
Os nad ydych chi wedi clywed rhyw lawer eto am Wrecsam, teipiwch ef i mewn i Google ac edrychwch ar y canlyniadau.
Efallai’n wir y cewch chi eich synnu gan yr hyn welwch chi.
Ymweliadau gan bwysigion Hollywood? Tic. Gofodwr yn gwisgo crys Clwb Pêl-droed Wrecsam? Tic. Ei chyfres ddogfen Disney+ ei hun? Tic.
Dim rhy ddrwg i ddinas fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Ble dechreuodd hyn i gyd?
Hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Wrecsam, y cyfeiriwyd ati yn aml fel prifddinas answyddogol gogledd Cymru, yn debyg i nifer o drefi a dinasoedd eraill ledled y wlad.
Yn lle da i fyw, gweithio a chwarae ynddo, ond efallai’n dipyn o berl cudd.
Newidiodd hynny i gyd gyda phenderfyniad yr actorion Rhestr A, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn 2020.
Roedd hynny’n giw i ddiddordeb byd-eang, gyda Wrecsam yn hawlio sylw penawdau ar draws y byd.
Pam Wrecsam?
Wrth gael eu cyfweld, mae pobl yn aml yn gofyn i’r ddau pam iddyn nhw benderfynu prynu Wrecsam.
A’u hateb? Fe wnaethon nhw syrthio mewn cariad â’r lle – yr angerdd, y gymuned, yr hanes a’r diwylliant.
Ac fel myfyriwr, does dim dwywaith eich bod chi’n gofyn cwestiynau tebyg iawn i’ch hunan – pam Wrecsam a pham Prifysgol Glyndŵr Wrecsam? Ac yn gywir felly, mae’n benderfyniad mawr. Ond mae yna gymaint o resymau tros ddewis astudio yma – o’n cyrsiau gwobrwyol a’n staff addysgu clodwiw, i’n cyfleusterau gwych a’r prosiect buddsoddi Campws 2025 gwerth £80m, mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Beth am gymryd golwg ar 8 rheswm i ddewis PGW am ragor o wybodaeth am y rhain hefyd.
O ran Wrecsam, mae’n ddinas y mae ei seren yn bendant yn esgyn. Ewch am dro o amgylch y strydoedd ac fe ddewch chi ar draws ystod wych o siopau a marchnadoedd hynod, yn ogystal â nifer cynyddol o orielau celf annibynnol, lleoliadau celfyddydol, amgueddfeydd, caffis a thai bwyta. Mae hefyd yn gartref i ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys digwyddiad diwydiant cerddoriaeth mwyaf y wlad, FOCUS Wales, sy’n croesawu 250 o artistiaid i berfformio ar draws 20 llwyfan pob blwyddyn. Ac os nad yw hynny’n ddigon, mae’r ardal yn hafan i selogion gweithgareddau awyr agored, gydag afonydd, mynyddoedd, llwybrau beicio mynydd a safleoedd dringo creigiau di-ri ar ei stepen drws.
Dyfodol disglair
Nid dim ond y clwb pêl-droed sy’n elwa o’i berchnogion newydd ychwaith, mae’r holl ddinas yn mwynhau effeithiau’r cyffyrddiad euraidd yma.
O’n myfyrwyr sydd yn sydyn iawn yn uwchganolbwynt stori Hollywood go iawn gyda chyfoeth o gyfleoedd ar flaenau eu bysedd, i fusnesau lleol, atyniadau ymwelwyr a siopau sydd yn mwynhau bod ar frig y don yma.
Wedi’r cyfan, pwy fyddai ddim wrth eu bodd bod Premier ffilm yn cael ei gynnal yn eu sinema leol? Neu un o sêr byd y ffilmiau yn taro mewn ar ymweliad â champws eu prifysgol?!
Yn ychwanegol i hynny, yn ddiweddar derbyniodd Wrecsam statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Nid yw hi erioed wedi bod mor gyffrous bod yn fyfyriwr yma (hefyd wyddoch chi fyth pwy ddewch chi ar eu traws…!).
Am weld drosoch eich hun beth yw’r holl gyffro? Porwch dros ein cyrsiau israddedig, ôl-radd neu gyrsiau byr a chanfod pryd mae ein diwrnodau agored nesaf – fedrwn ni ddim aros i gwrdd â chi!