Cyhoeddiad y Mis - Mawrth

Efelychiad dan arweiniad cyfoedion a gwaith pedagogaidd mewn addysg nyrsio pediatrig: Adolygiad beirniadol

Mae ein Cyhoeddiad y Mis fis Mawrth yn tynnu sylw at ymchwil newydd gan Brifysgol Wrecsam yn archwilio sut y gall efelychiad gefnogi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys pediatrig.

Yn eu herthygl, mae’r Dr David Crighton a Lisa Harvey yn edrych ar y defnydd cynyddol o efelychiad dan arweiniad cyfoedion mewn addysg nyrsio. Mae’r dull hwn yn cynnwys mwy o fyfyrwyr profiadol yn hwyluso sesiynau efelychiad i fyfyrwyr ar ddechrau eu rhaglen, gan greu cyfleoedd i ymarfer sefyllfaoedd clinigol mewn amgylchedd dysgu diogel a chefnogol.

Mae efelychiad wedi dod yn gynyddol bwysig mewn rhaglenni nyrsio. Nid yw lleoliadau clinigol bob amser yn rhoi amlygiad cyson i sefyllfaoedd cymhleth neu sefyllfaoedd o dan gryn bwysau, yn arbennig mewn gofal pediatrig lle mae sgiliau emosiynol a pherthynol yn hanfodol. Mae efelychiad yn galluogi myfyrwyr i ymarfer y profiadau hyn, gan eu helpu i feithrin hyder, datblygu rhesymu clinigol a myfyrio ar eu hymarfer cyn symud ymlaen i leoliadau clinigol go iawn.

Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at yr holl fuddion a geir o efelychiad dan arweiniad cyfoedion. Gall dysgu gyda chyfoedion greu amgylchedd llai brawychus, annog trafodaeth agored ac ymarfer myfyriol. Mae myfyrwyr sy’n gweithredu fel hwyluswyr hefyd yn ennill profiad gwerthfawr mewn arweinyddiaeth, cyfathrebu ac addysgu - sgiliau sydd o gymorth i’w datblygiad fel gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Fodd bynnag, mae’r awduron yn dadlau hefyd fod angen cefnogaeth ofalus ar gyfer y dulliau hyn. Mae cynnal sesiynau efelychiad effeithiol yn golygu paratoi, hyfforddi a llafur emosiynol gan staff a hwyluswyr myfyrwyr. Heb gydnabyddiaeth ac adnoddau priodol, y perygl yw y gall y gwaith hwn ddiflannu yn systemau’r brifysgol.

Gan dynnu ar waith y cymdeithasegydd Stephen Ball, mae’r erthygl hefyd yn myfyrio ar y pwysau ehangach sy’n wynebu prifysgolion, lle mae llwyddiant yn cael ei fesur yn aml drwy fetrigau fel boddhad myfyrwyr a chanlyniadau cyflogadwyedd. Yn y cyd-destun hwn, gall agweddau pwysig o ddysgu - gan gynnwys hyder, perthyn ac ymarfer myfyriol - fod yn anoddach i’w cofnodi ac felly’n haws i beidio sylwi arnynt.

Mae’r papur yn dod i’r casgliad bod gan efelychiad dan arweiniad cyfoedion botensial sylweddol i wella addysg nyrsio pediatrig, ond bydd ei lwyddiant hirdymor yn dibynnu ar sut mae sefydliadau yn adnabod a chefnogi’r gwaith perthynol ac emosiynol sydd ynghlwm mewn addysgu a dysgu.

Darllenwch y papur llawn