Mae'r campws ar gau oherwydd toriad pŵer y bore yma (dydd Iau). Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau yfory (dydd Gwener).
Picture of staff member

Graddiodd Lisa gyda Gradd mewn Nyrsio Plant yn 2005. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, yn cynnwys Pediatreg Acíwt a Hosbis i Blant, ond bu’n gweithio’n bennaf yn y gymuned gyda phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd – hynny yw, plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd cymhleth ac a oedd yn ddibynnol ar dechnoleg.

 

Mae Lisa yn danbaid dros ei rôl o ran darparu gofal iechyd o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar gleifion, gan gynorthwyo plant a’u teuluoedd i fyw yn eu cartrefi eu hunain ac yn eu cymunedau lleol. Yn ddiweddar, dychwelodd at addysg uwch fel myfyriwr tra’r oedd hefyd yn gweithio’n glinigol, a llwyddodd i gwblhau ei Chymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Cymunedol Plant a’i chymhwyster Rhagnodi Gan Nyrsys Annibynnol. Mae’n anelu at ddatblygu darpariaeth y gwasanaeth cymunedol ar gyfer plant sy’n ddibynnol ar dechnoleg trwy gynnig clinigau dan arweiniad nyrsys, fel y gellir darparu gofal yn nes at y cartref a gwella profiadau’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.

Mae Lisa yn dymuno cael dylanwad cadarnhaol ar nyrsio yn y dyfodol. Ers iddi ddychwelyd at Addysg Uwch, mae’r dymuniad hwn wedi dwysáu mwy fyth ac mae hi wedi ysgwyddo rôl fel Darlithydd Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam tra’n parhau i weithio yn ei rôl glinigol. Mae Lisa yn llawn cyffro o gael cyfrannu at siapio dyfodol nyrsio, gan wella profiad cleifion a gwella ansawdd gofal i blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru.

Yn ei hamser hamdden, does dim byd yn well gan Lisa na cherdded bryniau a mynyddoedd yn yr awyr agored, chwilio am raeadrau gyda’i Cavapoo bach ac ymdrochi mewn dŵr oer.

 

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Title Awarding Body
08-2022 Cymhwyster Ymarferwyr Arbenigol mewn Nyrsio Cymunedol Plant Prifysgol John Moors Lerpwl
08-2022 Presgripsiynu Annibynnol ac Atodol (V300) Prifysgol John Moors Lerpwl
08-2005 Batchelor Nyrsio (Child Field) Prifysgol Bangor