Dim Esgusodion - Diwrnod Rhuban Gwyn, 2025

white ribbon

Helena Barlow

25ain o Dachwedd 2025 yw Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod ac mae’n nodi dechrau 16 diwrnod o actifiaeth wedi’i arwain gan UNITE o dan y teitl #Dim Esgusodion sy’n dod i ben ar 10fed Rhagfyr 2025 (Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol).

Dechreuodd fy nhaith ymchwil PhD i stelcio gan gyn-bartneriaid yn 2021, pan wnes i gyfweld â menywod gyda phrofiadau cyfredol neu flaenorol er mwyn cael dealltwriaeth o’u profiad bywyd wrth iddynt ryngweithio gydag asiantaethau er mwyn cael cymorth. Fe wnes i hefyd gyfweld ymarferwyr oedd yn gyflogedig mewn meysydd cysylltiedig ac a oedd yn debygol o ddod i gysylltiad gyda menywod oedd yn chwilio am gymorth.

Gyda’i gilydd, rhoddodd 15 o fenywod ac 8 ymarferwr eu hamser i rannu eu straeon. Roedd y rhain yn amrwd, yn bwerus ac yn llawn emosiwn. Tra gall y naratif o fewn cymdeithas arwain at y gred bod math arbennig o unigolyn yn ddigon agored i niwed i ddenu cam-driniaeth a stelcio, roedd y canfyddiadau o’r cyfweliadau hyn yn anghytuno’n llwyr â hyn. I’r gwrthwyneb, roedd y menywod yn arddangos cryfder, gwytnwch a phenderfyniad cryf i symud ymlaen gyda’u bywydau a chefnogi eraill a allai fod yn wynebu profiadau tebyg yn y dyfodol.

Bu i’r ymchwil hefyd dynnu sylw at y ffaith y gall cam-drin a stelcio effeithio ar unrhyw un gan gynnwys rhai sy’n gyflogedig o fewn galwedigaeth broffesiynol lle maent yn cefnogi eraill, ac mae’r rhai sy’n ei brofi yn aml yn anfodlon ei ddatgelu na cheisio cael cymorth am sawl blwyddyn oherwydd ofn stigma a bai.

Felly, i grynhoi, bwriad y blog hwn yw amlygu i unrhyw un sy’n byw drwy gam-drin a stelcio, waeth beth fo’ch galwedigaeth neu amgylchiadau unigol, nad ydych chi ar eich pen eich hun a bod nifer o fenywod eraill sydd hefyd wedi byw drwy hyn, wedi chwilio am gymorth a’u bod nawr yn symud ymlaen gyda’u bywydau yn rhydd o ofn, trais a cham-drin.

Cofrestrwch ar gyfer: Gwneud Addewid y Rhuban Gwyn — Rhuban Gwyn DU

Gweler isod rai o’r asiantaethau sydd ar gael:

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 2000 247

Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol | Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh 0808 802 0300

Paladin – Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol 0203 866 4107

Uned Ddiogelwch Cam-drin yn y Cartref Gogledd Cymru 0333 360 0483 y tu allan i oriau gwaith: 0808 80 10 800

Dylech alw 999 mewn argyfwng bob amser.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb i glywed mwy am fy ymchwil gysylltu â mi ar:

Helena Barlow Ymgeisydd PhD a darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol – Helena.barlow@wrexham.ac.uk