DIWRNOD CREADIGRWYDD AC ARLOESI Y BYD: BLE GALL LLWYBR CREADIGOL EICH ARWAIN YN EICH BYWYD

Close up of hands on a potters wheel

“Mae chwilfrydedd ynghylch bywyd yn ei holl agweddau, gredwn i, yn parhau i fod yn gyfrinach sydd gan bobl greadigol wych” – Leo Burnett.


Mae Diwrnod Creadigrwydd ac Arloesi y Byd sydd yn annog pob unigolyn i fyfyrio ar faint o greadigrwydd sydd o’u hamgylch a’u bywydau pob dydd yn aml yn digwydd heb fawr o sylw. Pa un ai a yw hynny drwy gyfrwng datrys probleamu, cynhyrchu syniadau neu hyd yn oed ddyfeisio o bosib, mae’r diwrnod yn gyfle i bawb harneisio’r person creadigol a’r arloeswr sydd y tu mewn iddynt.

I nodi’r diwrnod, rydym am ddathlu’r arbenigedd creadigol sydd gennym ni’n fewnol yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam gyda Daniel, darlithydd yn BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch. Gyda chefndir lliwgar ar draws y sector manwerthu ac angerdd aruthrol tuag at ddylunio, mae Daniel yn sôn wrthym am ei ganfyddiad o greadigedd a ble gall llwybr creadigol eich arwain yn eich bywyd.

- Beth mae creadigrwydd yn ei olygu i chi?

I fi, fel Dylunydd Cynnyrch, mae creadigrwydd wrth galon popeth a wnaf. Y gallu i fod yn chwilfrydig, bod yn wahanol, yn well a defnyddio fy nychymyg. Mae’n caniatáu imi ddatgloi’r syniadau sydd yn fy mhen a’u mynegi ar bapur, CAD (dylunion gyda chymorth cyfrifiadur) neu drwy fodelu prototeip gan ddefnyddio ystod o wahanol ddeunyddiau. Mae’r broses hon, yn y pen draw, ,yn fy arwain at ddatrysiad dyluniad, gyda rhai yn fwy caboledig nag eraill. Mae’n bosib y bydd canlyniad fy narn o greadigrwydd yn cael ei ddefnyddio ar ffurf cynnyrch neu syniad ar gyfer cwmni ble rwy’n gweithio ar y pryd, neu mae’n bosib y byddaf yn ei fancio i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Weithiau nid yw fy syniadau yn mynd bellach na’r llyfr braslunio, ond mae’r broses yn gyffrous a llawn hwyl bob tro.

- Sut mae bod yn greadigol wedi eich helpu yn eich gyrfa hyd yn hyn?

Mae creadigrwydd wedi roi’r modd a’r gallu imi fynegi fy hun a fy syniadau mewn ffyrdd na fyddwn i wedi gallu oni bai fy mod i wedi astudio Dylunio Cynnyrch. Fel person eithaf tawel pan roeddwn i’n iau, byddwn yn ei chael hi’n anodd mynegi fy hun yn llafar, felly roeddwn yn defnyddio dylunio a chwaraeon i wneud hyn. Mae fy nghreadigrwydd wedi fy nghynorthwyo i gynhyrchu datrysiadau sydd wedi helpu cwmnïau i arbed miliynau o bunnoedd. Yn fwyaf diweddar, mae fy nghreadigrwydd wedi helpu i arbed miliynau o dunelli o blastig drwy newid a gwella dyluniad sy’n bodoli eisoes, sydd wedi bod yn beth gwych i fod yn rhan ohono.

- Beth fyddech chi’n dweud yw eich syniad neu ddarn o waith mwyaf creadigol?

Mae’n debyg mai fy ngwaith mwyaf creadigol yw’r rhai symlaf. Daeth un o fy nyluniadau, y Bwrdd Tabluka, i fodolaeth gyda’r angen am fwrdd syml y gallwn ei brynu i’r mesuriadau yr oeddwn i eisiau, yn hytrach na’r hyn a bennwyd imi gan wneuthurwyr eraill. Y creadigrwydd yn y darn yma yw’r modd mae wedi ei saernïo, heb unrhyw offer na gosodiadau, ac mae modd ei dynnu’n ddarnau a’i ddefnyddio eto dro ar ôl tro, gan leihau gwastraff a’r angen i brynu unwaith eto.

(Mae modd dilyn neu weld y Tabluka yma ar FacebookTwitter neu Instagram.)

- Beth sy’n wych am BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch?

Rydym ni wedi creu’r cwrs BA Dylunio Cynnyrch yn ofalus iawn fel ei fod yn cynnwys rhaglen ymarferol o astudiaeth gyda sgiliau dylunio, creu, entrepreneuraidd a chyflogadwyedd yn greiddiol iddo. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar y sgiliau ymarferol o ansawdd uchel sydd eu hangen i fod yn ddylunydd cynnyrch proffesiynol tra bod gennych chi wybodaeth a sgiliau allweddol i ddeall sut mae modd cynhyrchu a gweithgynhyrchu dyluniad.

Rydym ni hefyd wedi sicrhau ein bod yn cyflogi Dylunwyr Cynnyrch gyda chefndir diwydiannol cryf o gwmnïau byd-eang fel Dyson ac Unilever, felly mae gan y cwrs y wybodaeth a’r gefnogaeth ddiwydiannol ddiweddaraf

Teimlo'n greadigol ac arloesol? Archwiliwch dudalen y cwrs, i ddarganfod mwy am yr hyn sydd gan ein cwrs BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch.

Ysgrifennwyd gan Daniel Knox, Darlithydd mewn Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.