Gŵyl Dinasyddion Ecolegol yng Nghymru

2 leaflets on a table

Tachwedd 2025

Ddiwedd Tachwedd cynhaliwyd Gŵyl Dinasyddion Ecolegol yng Nghymru yn Tŷ Pawb, ac am ddiwrnod bendigedig. 

Wedi’i drefnu a’i gynnal gan aelodau o Brifysgol Wrecsam tîm ymchwil Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol+ : Yr Athro Alec Shepley (Cyd-Ymchwilydd ac arweinydd Prifysgol Wrecsam), Dr Rebecca Upton, Dr Tracy Simpson a Daniel Knox, roedd y diwrnod yn seiliedig ar thema Adfyfyrio ar y presennol ac archwilio dyfodol dinasyddiaeth ecolegol yng Nghymru.  Y nod oedd dathlu beth sy’n gweithio, dadorchuddio syniadau newydd, a meithrin dulliau a pherthnasoedd er mwyn adeiladu etifeddiaeth i ddathlu dinasyddiaeth ecolegol yng Nghymru.

 2 people standing next to an advert bannerDr Rebecca Upton a Dr Tracy Simpson

Dechreuodd yr Athro Alec Shepley’r diwrnod gyda throsolwg o brosiect ymchwil Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol+ sy’n cael ei redeg mewn cydweithrediad gyda’r Coleg Celf Brenhinol a Sefydliad Amgylcheddol Stockholm ym Mhrifysgol Efrog. Mae’n “brosiect i greu prosiectau” gyda’r nod o feithrin dinasyddiaeth ecolegol ar gyfer gweithredu’n gadarnhaol dros yr hinsawdd a chan ddefnyddio ymyriadau technolegol. Rhannodd Alec ychydig o wybodaeth am brosiectau ysbrydoledig sydd wedi’u hariannu gan Ddinasyddion Ecolegol hyd yma, gan gynnwys Flow. Walk. Drag gan Brifysgol Liverpool Hope, a ddisgrifiwyd fel “archwiliad llawen, cwiar sy’n defnyddio perfformiadau drag, mapiau rhyngweithiol a theithiau cerdded er mwyn ailddychmygu dinasyddiaeth ecolegol drwy lens bioamrywiaeth a chroesi rhywogaethau chwareus.”  Roedd hyn yn gosod sylfaen dda ar gyfer meddwl am ffyrdd amgen o ddelio gyda gweithredu dros yr hinsawdd. 

Person presenting to an audience

Yr Athro Alec Shepley yn estyn croeso ac yn rhoi cyflwyniad

Yna fe wnaeth Lewis o Incredible Edible Wrexham gymryd yr awenau gyda bwrdd llawn propiau ar y llwyfan gyda chymeradwyaeth gan y gynulleidfa pan gyhoeddodd Lewis na fyddai’r sesiwn yn cynnwys unrhyw gyflwyniadau PowerPoint...dim ond arddangosfa o bropiau diddorol yr olwg!

Mae gan Lewis, a adwaenir fel ‘dyn y dyfeisiadau’ yn ei ardal leol, gefndir mewn Ffiseg a Pheirianneg, ac mae ganddo ddiddordeb byw mewn celf a chrefft. Mae’n cyfuno ei arbenigedd gyda’i frwdfrydedd dros leihau gwastraff a hyrwyddo bod yn hunangynhaliol wrth dyfu bwyd. Roedd y cyflwyniad yn wledd i’r dychymyg gyda dyfeisiadau’n amrywio o becynnau gwarchod buwch goch gota (ie, dyna’r enw swyddogol llawn!), drwy declynnau croesbeillio Pôs Mwnci, ymlaen i osodiadau pwmp dŵr sy’n gallu troi car ‘yn rhyw fath o injan dân’ ar gyfer dyfrhau planhigion yn y pentref. Roedd popeth roedd Lewis yn ei dannu wedi cael ei uwchgylchu, ei adennill neu ei wella er mwyn ei wneud yn addas i’r pwrpas, gyda llawer o feddwl ac ystyriaeth wedi’i roi i bob un:

🐞Pecyn gwarchod buwch goch gota: rheoli plâu biolegol er mwyn ail-leoli buchod coch cota o dŷ preswyl i randir. Gan ddefnyddio brwshis esmwyth, cynwysyddion hyblyg a laniard er mwyn delio gyda niferoedd y buchod coch cota’n effeithiol, cânt eu symud i ardal gaeafgysgu newydd lle mae digonedd o fwyd ar eu cyfer. 

🥜Croesbeilliwr Coed Pôs Mwnci: pecyn pigo ffrwythau estynedig a ddefnyddir i gasglu paill o goed gwrywaidd er mwyn peillio coed benywaidd. Fel arfer caiff paill ei gludo gan y gwynt i goed benywaidd, fodd bynnag yn aml nid ydynt wedi cael eu plannu’n agos at ei gilydd yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw. Mae dyfais Lewis yn helpu’r broses beillio sydd wedyn yn ildio cnau pôs mwnci sy’n fwytadwy.

💦Gosodiad pwmp dŵr: Mae grŵp o wirfoddolwyr lleol yn garedig iawn yn dyfrhau’r planhigion yn y pentref lleol sy’n helpu i wella llesiant cymunedol yn ogystal â gweithredu mewn ffordd bositif dros yr hinsawdd. Roedd rhai o’r gwirfoddolwyr yn cael gwaith cludo’r dŵr o amgylch y pentref felly crëodd Lewis ddatrysiad i hyn gan ddefnyddio pibau wedi’u huwchgylchu, pympiau llaw, bachau ar gyfer y ffenest car a hen gynwysyddion dŵr mawr (mor syml pan rydych chi’n gwybod sut i’w wneud!). Y cyfan sydd angen ei wneud yn syml iawn yw rhoi’r cynhwysydd gwag yn y car, ei lenwi gyda phibell ddŵr ac yna gyrru o amgylch y pentref gan ddefnyddio’r pwmp trwy’r ffenest i ddyfrhau’r planhigion hyfryd.

Roedd cymaint o amrywiaeth o ddyfeisiadau ysbrydoledig wnaeth wir wneud i’r gynulleidfa ddechrau ystyried beth allant hwy ei wneud fel dinasyddion ecolegol. Diolch yn fawr Lewis!

Person holding an upcycled container Lewis o Incredible Edible

Roedd sesiynau’r prynhawn yn cael eu dilyn gan amrywiaeth eang o weithdai a siaradwyr a oedd i gyd yn gyffrous iawn i allu rhannu eu sgiliau a’u profiadau o ddinasyddion ecolegol. Roedd y rhain yn cynnwys:

Nim Robins - Mae hi wedi byw, gweithio a throchi ei hun mewn ecosystemau amaethyddol mewn amrywiaeth eang o leoliadau a chyd-destunau. Cwblhaodd ei diploma tra’n teithio rhwng prosiectau ecosystemau hunangynhaliol ar hyd a lled y byd, yn fwyaf diweddar mae’n gweithio a byw mewn fferm 7 acer yng ngorllewin Cymru. Mae’r cartref a’r prosiect yma wedi rhoi iddi nifer o flynyddoedd o brofiad uniongyrchol yn adfer tir drwy arferion amaethyddol atgynhyrchiol megis cynyddu pridd yn gyflym a thrwy orchuddio cnydau, compostio poeth, oer, eplesu planhigion a phori cylchdro. Mae hi hefyd yn hoffi dysgu popeth am ddyluniadau atalfa wynt, plannu coedlannau a choedwigoedd, rheoli coed, gerddi parhaol, fforestydd bwyd, garddio heb balu a chadwraeth bwyd. Un o’i harbenigeddau yw ecosystemau amaethyddol hunangynhaliol ar gyfer addysgwyr plant, a thrwy Children in Permaculture mae’n cyd-hwyluso PDC blynyddol ar gyfer addysgwyr, sy’n denu addysgwyr, rhieni a rhai sy’n cael eu haddysgu gartref ar hyd a lled y byd. Mae hi hefyd yn angerddol dros ailwylltio ac ailddylunio tiroedd ysgol er mwyn cefnogi ecolythrennedd ac annog cwricwlwm yn seiliedig ar natur. 

Tîm Criw Compostio - maent yn gwmni nid-er-elw sydd wedi’i leoli ym Machynlleth, Powys, sy’n rhedeg gwasanaeth bio-wastraff economi gylchol lawn, gan gymryd bwydydd gwastraff a deunyddiau pydradwy a’u troi yn wrtaith i roi maeth i’r pridd ar gyfer tyfu bwydydd organig yn lleol. Maent yn: 🚮gofalu am gasglu gwastraff o fusnesau lleol yn nyffryn Dyfi, compostio mewn cynwysyddion, compostio poeth ac oer, gwrtaith hylif 🪴Hyfforddiant ar arferion ynghylch gofalu am bridd, compostio cymunedol a rheoli bio-wastraff. 

Andy Schofield  -  Cyfarwyddwr Llwyfan Amgylcheddol Cymru. Mae gyrfa Andy yn ymestyn dros 30 mlynedd, gyda’r rhan fwyaf ohoni wedi’i threulio mewn rolau gweithredol, polisi a strategaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd; mae gan Andy brofiad helaeth o faterion amgylcheddol led-led Cymru a’r heriau a wynebir gan rai sy’n ceisio mynd i’r afael â hwy. Yn dilyn cyfnod o weithio ar Brosiect Morlyn Llanw Abertawe, yn fwyaf diweddar mae Andy wedi rheoli Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4, gan hwyluso cydweithrediadau ymchwil ar draws Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd ac Exeter. 

Angela Davies - mae’n arlunydd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, gan ymchwilio i synnwyr lle a’r systemau ffiniol a ffiniau rydym yn eu creu. Mae’n archwilio systemau pŵer wedi’u creu mewn perthynas â systemau ar draws tirweddau naturiol a seicolegol. Mae gan Angela ddiddordeb mewn creu cysylltiadau rhwng y gwleidyddol a’r personol, rhwng y gofodau personol sydd gennym yn y byd go iawn ond hefyd yn ein bydoedd mewnol a gofodau ar-lein. Caiff ei denu’n aml i ddefnyddio deunyddiau organig sy’n dod o’r ddaear megis rhew, halen, clai, cwyr a gwydr er mwyn archwilio syniadau ynghylch trawsffurfiad. Mae’r weithred seithug o gastio gyda rhew, cofnodi rhew yn ei gyflwr sy’n toddi, cerfio gyda halen, arsylwi ar gylchredau newid yn brosesau alcemegol rwy’n ymrwymo iddynt, cyn eu trosi drwy Realiti Estynedig, cerfluniau, ffilm, ffotograffiaeth, sain, gosodiad neu berfformiad. Mae ei gweithiau sy’n deillio o hyn yn adlewyrchu themâu amser, a, dros dro, adlewyrchu ac ymhelaethu ar brosesau sydd wedi’u hymgorffori yn rhan o fyd natur er mwyn ein helpu ni i uniaethu gyda’n profiad dynol ohono.

Cymerodd y siaradwyr hyn i gyd ran mewn trafodaeth banel hynod ddiddorol oed yn amrywio o ystyried sut i fynd i’r afael â’n hargyfwng system cymhleth - i beth yw’r papur lapio mwyaf cynaliadwy i’w ddefnyddio adeg y Nadolig, roedd cymaint o lawenydd, dysgu ac amrywiaeth yn rhan o’r diwrnod.

Group of people outdoors in a circle

Taith dros ginio o’r gerddi ar y to yn Tŷ Pawb

At ei gilydd, roedd yn brofiad adnewyddol a chymhellol sydd wedi ysbrydoli’r grŵp Dinasyddiaeth Ecolegol i ddechrau cynllunio’r digwyddiad a diwrnod ffurfio camau gweithredu nesaf. Cafodd pawb amser gwych yn dod â phobl ynghyd ac yn ysbrydoli newid. Mae’r tîm Dinasyddion Ecolegol yn gobeithio y gallwch ymuno gyda ni am yr un nesaf!