Dinasyddiaeth Ecolegol a Chyd-ddylunio Llwybrau Cynhwysol a Chadarn ar gyfer Trawsnewidiadau Cynaliadwy

Mehefin 2025
Mae’r Ecological Citizen(s) Network+ yn brosiect cydweithredol gwerth miliynau o bunnoedd. Mae’n cael ei arwain gan y Coleg Celf Brenhinol (RCA), yn ogystal â Sefydliad Amgylchedd Stockholm o Brifysgol Efrog a Phrifysgol Wrecsam. Cenhadaeth y prosiect yw “archwilio a chyflymu Dinasyddiaeth Ecolegol ar gyfer gweithredu dros yr hinsawdd yn gadarnhaol mewn cymdeithas ddigidol gynaliadwy.
Mae’r Athro Alec Shepley, Deon Cyswllt Ymchwil, yn Gyd-ymchwilydd y prosiect ac yn arwain tîm prosiect Prifysgol Wrecsam. Yn ddiweddar, mae Alec, ochr yn ochr ag ymchwilwyr Prifysgol Wrecsam, Daniel Knox, Dr Tracy Simpson a Dr Rebecca Upton, wedi cyd-ysgrifennu erthygl gyda chydweithwyr o Sefydliad Amgylchedd Stockholm (Luke Gooding) a RCA (Emily Boxall, Robert Phillips, Charlotte Nordmoen). Cafodd yr erthygl, sy’n dwyn y teitl Dinasyddiaeth Ecolegol a Chyd-ddylunio Llwybrau Cynhwysol a Chadarn ar gyfer Trawsnewidiadau Cynaliadwy ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Cynaliadwy fel rhan o’r rhifyn arbennig ar Gyd-ddylunio ac Arloesedd Cymdeithasol ar gyfer Niwtraliaeth Hinsawdd.
Mae’r ymchwil y sonnir amdano yn yr erthygl yn archwilio sut ellir gwireddu dim allyriadau a niwtraliaeth hinsawdd drwy ddull sy’n ‘canolbwyntio ar bobl’. Yn ystyried sut all dull sy’n arloesol yn gymdeithasol ac wedi ei gyd-ddylunio i hwyluso dinasyddiaeth ecolegol chwarae rhan mewn cyflwyno’r newidiadau angenrheidiol.
Beth yw Dinasyddiaeth Ecolegol?
Cyfrifoldeb dinesig cyffredin i roi cyfle i ddinasyddion weithio ar y cyd ar ddatrysiadau arloesol i faterion amgylcheddol, yn aml gyda phwyslais cymunedol sy’n canolbwyntio ar leoedd. Galluogi cyfnewid gwybodaeth a chyfrannu at gynaliadwyedd a ddyluniwyd ar y cyd ag arbenigwyr y maes a llunwyr polisïau ‘traddodiadol’.
Arloesedd Cymdeithasol
Mae’r awduron yn rhoi manylion ar sut mae’r cysyniad o arloesedd cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i gipio eu harchwiliad o ddinasyddiaeth ecolegol, gan nodi arloesedd cymdeithasol fel nerth ysgogol wrth rymuso unigolion a chymunedau i gymryd rhan, gweithredu a chreu newid amgylcheddol parhaus. Drwy roi “pwyslais ar ymgysylltiad o’r gwaelod i fyny i lywio dyfodol cynaliadwy” mae'r cysyniad yn cyd-fynd yn dda ag egwyddorion craidd dinasyddiaeth ecolegol ac yn cynorthwyo’r symudiad o fodelau polisïau a llywodraethu o’r “brig i lawr”.
Mae heriau allweddol i’r cysyniad arloesedd cymdeithasol yn cael eu crybwyll yn yr erthygl. Ymysg y rhain mae dynameg grym yn cael effaith ar gynrychiolaeth, y broblem o fynediad at adnodd parhaus heb “gymorth sefydliadol cadarn”’, ac ehangu beth sy’n aml yn ddyluniad lleol.
Agwedd Dulliau Cymysg
Dyluniwyd yr agwedd ddulliau cymysg a ddefnyddiodd y tîm er mwyn lleihau’r heriau a nodwyd o ran y cysyniad arloesedd cymdeithasol:
- Trafodaethau Bord Gron
Ymarferwyr y diwydiant gyda phrofiadau bywyd yn ystyried dinasyddiaeth ecolegol o safbwyntiau amrywiol wrth gael eu hannog i gynhyrchu syniadau arloesol sydd tu hwnt i’r datrysiadau amlwg a nodwyd yn gyntaf. - Gweithdai ‘Sut Allwn Ni’
Grwpiau cymunedol, busnesau, Sefydliadau Anllywodraethol, a llywodraethau lleol yn cynnig datrysiadau i’r materion a nodwyd yn y trafodaethau bord gron. Yn ogystal, llwyddodd y sesiynau i “fyfyrio ar egwyddorion y ddinasyddiaeth ecolegol ei hunan, gan annog cyfrifoldeb ar y cyd, gwneud penderfyniadau sy’n ystyriol o adnoddau, a gweithredoedd wedi’u harwain gan gymunedau.” - Sesiynau mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol (VCSE)
Cynrychiolwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol yn cydweithredu i gyfnewid gwybodaeth gymdeithasol ac amgylcheddol ar lawr gwlad, rhwydweithio a chreu newid.
Saith Egwyddor
Gwnaeth y dadansoddiad data o’r dull casglu data a sonnir amdano uchod ganfod saith prif nodwedd o’r ddinasyddiaeth ecolegol. Gellir eu grwpio i dri ‘clwstwr’, gyda dinasyddiaeth ecolegol wrth wraidd y cwbl:
Sylfeini Dinasyddiaeth Ecolegol
- Penodol i leoedd: Wedi seilio ar wybodaeth leol a phrofiad bywyd.
- Yn canolbwyntio ar waddol: Yn pwyso tuag at lesiant cymdeithasol ac ecolegol hirdymor.
Systemig a Hyblyg
- Hyblyg: Croesawu newid ac ansicrwydd.
- Systemau ehangach: Deall y cyd-destun cymdeithasol-ecolegol ehangach.
Dulliau Dinasyddiaeth Ecolegol
- Cwlwm bywyd: Cydnabod y cydgysylltiad rhwng bob ffurf o fywyd.
- Amrywiaeth: Gwerthfawrogi amryw o safbwyntiau a chyfranogiad cynhwysol.
- Cyfiawnder cymdeithasol: Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig o ran effeithiau amgylcheddol.
Amlygodd y canfyddiadau nad yw dinasyddiaeth ecolegol wedi ei rhagosod ac nad oes ganddi ddiffiniad syml. Mae’n ysbryd cymunedol, profiadau cyffredin, dylanwad cymdeithasol a seiliedig ar leoedd, pob un yn helpu i gipio a llywio newid. Ystyrir pob egwyddor yn ei thro, yn fanwl ac yng nghyd-destun y ddinasyddiaeth ecolegol.
Argymhellion
Cyhoeddwyd nifer o argymhellion, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r data, i hyrwyddo trawsnewidiad ar lefelau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol:
- Hyrwyddo Cyd-ddylunio a Llywodraethu Cyfranogol;
- Creu Fframweithiau Polisïau sy’n Pontio Arferion Dinasyddiaeth Ecolegol Lleol a Byd-eang;
- Mabwysiadu Cydweithrediad a Deialog Rhwng Cenedlaethau;
- Cefnogi Datrysiadau Sy’n Seiliedig ar Fyd Natur a Dan Arweiniad y Gymuned;
- Datblygu Polisïau Cynaliadwyedd Cynhwysol;
- Ymgorffori Dinasyddiaeth Ecolegol mewn Ymgyrchoedd Ymwybyddiaeth Gyhoeddus ac Addysg;
- Defnyddio Adnoddau Digidol ar gyfer Ymgysylltiad Cymunedol a Chasglu Data;
- Integreiddio Dinasyddiaeth Ecolegol i Gynlluniau Gweithredu Dros yr Hinsawdd.
Yn ogystal, cyflwynwyd argymhellion ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Ymhlith y rhain oedd cwmpas daearyddol ehangach (yn cynnwys yn rhyngwladol) a dull hydredol i ddeall effeithiau tymor hwy rhaglenni dinasyddiaeth ecolegol. Yn ogystal, nodwyd y cyfyngiadau o ddefnyddio data ansoddol. Trafodwyd canfod y posibilrwydd o duedd y rheiny a oedd yn rhan o’r astudiaeth a’u tueddiadau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd a thangynrychiolaeth posibl o gyfranogwyr. Bydd ystyried y rhain ar gyfer ymchwil y dyfodol yn galluogi archwiliad gwell o’r pwnc.
Casgliad
Wrth i gymdeithas fynd i’r afael â materion yr hinsawdd, nid yw modelau polisïau a llywodraethu ‘o’r brig i lawr’ yn ddigon ar eu pen eu hunain. Mae’r ymchwil yn rhoi pwyslais ar rym dulliau cyfranogol ac sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae cynnwys cymunedau mewn cyd-greu datrysiadau yn golygu bod dinasyddiaeth ecolegol yn meithrin teimlad o berchnogaeth, cyfrifoldeb, ac arloesedd o ddull ‘o’r gwaelod i fyny’.
Nid yn unig y mae saith dimensiwn nodedig datrysiadau cymorth dinasyddiaeth ecolegol yn effeithiol yn amgylcheddol ond hefyd yn gyfiawn ar draws y cenedlaethau ac wedi’u teilwra i anghenion lleol.
Mae’r astudiaeth yn dangos bod meithrin dyfodol cynaliadwy yn gyfrifoldeb cyffredin sy’n cynnwys sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol. Wrth ddefnyddio egwyddorion dinasyddiaeth ecolegol, gall ymdrechion cynaliadwyedd fod yn hyblyg, cynhwysol a theg.