Dyfarnu grant ymchwil clodfawr Elizabeth Casson Trust i Dr Liz Cade

Elizabeth casson half logo

Mae’n bleser gennym rannu bod Grant Ymchwil Pump Primer gan yr Elizabeth Casson Trust wedi ei ddyfarnu i Dr Liz Cade. Bydd y cyllid yn cefnogi astudiaeth ansoddol sy’n dwyn y teitl Gwirfoddoli gyda Chymunedau Ymylol: Yr Effaith ar Fyfyrwyr a Datblygiad Proffesiynol.

Elizabeth Casson logo

Mae Liz, Prif Ddarlithydd Perthynol i Iechyd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Wrecsam, wrth ei bodd cael derbyn y wobr ac yn edrych ymlaen at gynnal y gwaith hwn, a fydd yn archwilio rôl gwirfoddoli mewn llywio hunaniaeth broffesiynol myfyrwyr therapi galwedigaethol - yn arbennig wrth weithio gyda phobl sydd wrth ymylon cymdeithas.

Mae’r prosiect yn ychwanegu at ymchwil doethurol Liz, a oedd yn archwilio’r syniad o “tuedd i lewyrchu” mewn lleoliadau sy’n dod i’r amlwg - model lle mae myfyrwyr yn camu i mewn i sefyllfaoedd anhraddodiadol i sefydlu eu rôl therapi galwedigaethol personol, gan gymhwyso damcaniaeth i ymarfer mewn ffyrdd arloesol. Mae gwaith blaenorol Liz yn awgrymu er y gall y profiadau hyn fod yn drawsffurfiol, maent hefyd yn feichus, ac nid bob myfyriwr sydd â mynediad atynt.

O ganlyniad, cyflwynodd Prifysgol Wrecsam ddull newydd a chynhwysol drwy’r modiwl Cymhlethdod mewn Ymarfer. Wedi ei ddilysu yn 2022, mae’r modiwl yn cynnwys rhaglen wirfoddoli dair wythnos gyda grwpiau cymunedol a gwasanaethau sy’n cefnogi’r rhai y mae anghyfiawnder galwedigaethol yn effeithiol arnynt - gan gynnwys ceiswyr lloches, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin domestig a phobl sy’n byw gyda salwch meddwl neu anabledd. Myfyrwyr sy’n dewis lle i wirfoddoli, dan arweiniad diddordeb personol a brwdfrydedd, sy’n helpu i feithrin ymgysylltiad, myfyrdod, a dysgu dyfnach.

Mae profiad anecdotaidd ac adborth myfyrwyr yn awgrymu nid yn unig bod y profiad yn rymusol ond gall symud dyheadau gyrfaol myfyrwyr a chryfhau eu dealltwriaeth o gyfiawnder cymdeithasol, cymryd risg, ac entrepreneuriaeth - gwerthoedd allweddol mewn therapi galwedigaethol, a gwerthoedd oedd wrth wraidd gyrfa arloesol Dr Elizabeth Casson ei hun.

Parhau gwaddol o arloesedd a chynhwysiant

Wedi ei geni yn Ninbych yn 1881, roedd Dr Elizabeth Casson yn ffigwr wych: y ddynes gyntaf i ennill gradd feddygol o Brifysgol Bryste, a sylfaenydd therapi galwedigaethol yn Lloegr. Cafodd ei gyrfa ei llywio gan waith cynnar gyda’r diwygiwr cymdeithasol, Octavia Hill, a pharhaodd yn ymroddedig drwy gydol ei bywyd i’r gred y gallai gweithgarwch ystyrlon drawsnewid bywydau. Dyfarnwyd OBE iddi yn 1951 i gydnabod ei gwaith a chafodd ei gwneud yn gymrawd er anrhydedd y World Federation of Occupational Therapists.

Yn 1929, sylfaenodd Ysgol Therapi Galwedigaethol Dorest House, yr ysgol gyntaf o’i math yn y DU. Yn ddiweddarach, sefydlodd y Casson Trust i gefnogi’r proffesiwn yr oedd wedi helpu i’w greu. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ei ffurf bresennol yn parhau i anrhydeddu ei gwaddol drwy gyllido ymchwil datblygiad, ac arweinyddiaeth mewn therapi galwedigaethol ledled y DU.

Fel y nodwyd yn ei hysgrif 1955 yn Occupational Therapy, “Ei ffydd yn ein gwaith iachau wnaeth ysgogi a sbarduno barn feddygol o ran therapi galwedigaethol… a’i hagwedd benderfynol a dyfalbarhad oedd yr hyn a’i symudodd ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad a dihidrwydd.”

Gwedd naturiol i Wrecsam

Mae Prifysgol Wrecsam yn rhannu gwerthoedd Dr Casson o gynhwysiant, amrywiaeth, a thegwch. Ar y brig yng Nghymru a Lloegr am gynhwysiant cymdeithasol, mae Wrecsam yn cefnogi llawer o fyfyrwyr gyda phrofiadau bywyd ac anfantais - myfyrwyr sy’n dod â safbwynt unigryw a gwerthfawr i’r proffesiwn therapi galwedigaethol.

Mae prosiect Dr Cade yn adlewyrchu ymrwymiad y brifysgol i addysg yn seiliedig ar werthoedd, a ategir gan foeseg gadarn, diogelu, ac arferion cynhwysol. Mae’r elfen wirfoddoli yn rhan o fodiwl achrededig llawn a gymeradwywyd gan yr HCPC, RCOT, a Phrifysgol Wrecsam, gyda pharatoadau a llywodraethu manwl i sicrhau diogelwch myfyrwyr a chymunedau. Cefnogir myfyrwyr gan lawlyfr, fframwaith goruchwylio, a chytundebau trefnwyr, a bydd yr ymchwil yn dilyn protocolau moesegol cadarn - gan gynnwys y dewis i gymryd rhan yn y Gymraeg.

Drwy gasglu myfyrdodau myfyrwyr mewn grwpiau ffocws, bydd y prosiect yn archwilio sut mae gwirfoddoli mewn sefyllfaoedd ymylol yn cyfrannu at hunaniaeth a thwf proffesiynol. Y gobaith yw y bydd y canfyddiadau yn cynnig cipolygon ar sut gellir defnyddio modelau lleoliadau amgen i gefnogi dull mwy cynhwysol a seiliedig ar werthoedd i hyfforddi therapyddion galwedigaethol y dyfodol.

Defnyddio’r ‘cyffredin’ a’i wneud yn ‘fwy cyffredin’

Mewn Darlith Goffa Elizabeth Casson flaenorol, disgrifiodd yr Athro Jenny Butler Dr Casson fel arloeswr a oedd yn credu y gall “y ‘cyffredin’ ddod yn ‘fwy cyffredin’ drwy gymryd cyfleoedd sy’n codi.” Mae’r un naws yn llifo drwy waith Liz, gan gynnig y cyfle i fyfyrwyr gamu i gymunedau, gwneud gwahaniaeth, ac ail-ddehongli posibiliadau eu proffesiwn.

Llongyfarchiadau i Dr Liz Cade ar y cam nesaf cyffrous hwn ar ei thaith ymchwil. Edrychwn ymlaen at rannu rhagor wrth i’r prosiect ddatblygu.