O Ogledd Iwerddon i Wrecsam: Taith astudio myfyriwr

Criminology books

Mae Chelsea McClure yn fyfyriwr 3ydd blwyddyn yn astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Wrecsam. Wedi gorffen ei hastudiaethau Safon Uwch, penderfynydd gymryd blwyddyn o seibiant er mwyn gweithio a phrofi bywyd y tu allan i fyd addysg. Helpodd y penderfyniad yma hi i sylweddoli ei bod am gymryd y cam nesaf a mynd ymhellach gyda’i haddysg.

Gwneud Y Symudiad Mawr

Mae dod yr holl ffordd i astudio o Ogledd Iwerddon yn gam mawr, ond roedd cynhwysiant Wrecsam yn ffactor wrth iddi ddewis astudio yma. Dywed: “Gwnaeth cynhwysiant Wrecsam argraff fawr arnaf. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn cyfri, eu bod nid yn unig yn gofalu am fy addysg, ond amdanaf i fel person. Maen nhw’n gofalu amdanoch a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd, o ddechrau’r cwrs i’r Diwrnod olaf un, mae ‘na wastad rywun yno i helpu.”

Ym Mhrifysgol Wrecsam rydym o’r farn y dylai addysg uwch fod ar gyfer pawb. Mae ein tîm ar y campws i gefnogi myfyrwyr pe bydd angen unrhyw help neu gymorth arnoch.

Awyrgylch y Campws

Mae awyrgylch campws, llawn gweithgarwch Wrecsam yn ffactorau pellach pam y gwnaeth Chelsea y daith i Wrecsam. “Mae’n gampws bywiog a chymdeithasol, mae pawb yn adnabod pawb, ac mae ‘na wastad rywun yno sy’n barod i sgwrsio. Hynny, ynghyd â’r darlithwyr caredig a gwybodus, a modiwlau cyffrous a diddorol, i’r ffrindiau anhygoel wnes i drwy gydol ein tair blynedd gyda’n gilydd. Mae’r uchod wedi gwneud fy mhrofiad o’r cwrs mor bleserus.

“Nid yn unig y mae fy ngwybodaeth wedi tyfu, a fy addysg wedi mynd i’r lefel nesaf, rwy’n teimlo fy mod yn berson gwell mewn sawl ffordd. Rwy’n fwy hyderus, yn fwy hunan sicr, ac yn teimlo’n gyffrous wrth feddwl am y cam nesaf yn fy mywyd, yn fwy felly nag erioed o’r blaen.”

Ymuno â Chymdeithas

Yn ei blwyddyn gyntaf, ymunodd Chelsea â’r Gymdeithas Droseddeg, a bellach mae’n un o dair sy’n rhedeg y gymdeithas. Dywed: “Rydym yn trefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr ar draws yr holl brifysgol, am ein bod am fod yn gynhwysol i staff a myfyrwyr ac yn ddiolchgar iawn am y ganmoliaeth a’r gefnogaeth a gawsom hyd yn hyn.”

Pan ofynnwyd iddi a fyddai’n argymell y brifysgol: “Mi fyddwn i’n argymell Wrecsam 100% i bob darpar fyfyriwr am nad yw hi byth yn rhy hwyr cyflawni eich breuddwydion. Bydd y brifysgol yma yn gofalu amdanoch a’ch cefnogi’r holl ffordd drwy eich pryderon a’ch amheuon, i’ch helpu i gyflawni eich nodau personol ac addysgol.

“Maen nhw wedi bod o gymorth mawr wrth fy mharatoi ar gyfer cam nesaf fy addysg, mae ‘na wastad ddigwyddiadau a staff drwy gydol y flwyddyn i’ch helpu a’ch arwain chi ar gyfer bywyd wedi’r brifysgol.”

Eich Profiad Prifysgol Mewn Dyfyniad

Cwestiwn yr ydym yn hoff iawn o’i ofyn i fyfyrwyr a graddedigion yw, a fedrwch chi gwmpasu eich profiad Wrecsam (hyd yn hyn) mewn dyfyniad? - cynigodd Chelsea y dyfyniad yma o’i hoff fand, Abba: “Mae gen i freuddwyd…Ac mae fy nghyrchfan, yn ei gwneud yn werth chweil.”

“Diolch i’r holl staff a myfyrwyr sydd wedi gwneud fy amser ym Mhrifysgol Wrecsam hyd yn hyn yn brofiad bythgofiadwy. Rydw i’n ffodus iawn fy mod wedi cael y cyfle i fyw ac astudio yn y brifysgol anhygoel hon”

Gallwch ddarganfod mwy am ein rhaglenni Israddedig neu Ol-raddedig Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.