Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil, Ionawr 2025

Yn y Digwyddiad Agored y mis Ionawr hwn, gwnaethom wahodd Paula Wood, Ôl-ddoethur mewn Cenhadaeth Ddinesig, i Gadeirio’r sesiwn a teg yw dweud bod Paula wedi gwneud hyn yn wych, hyd yn oed gyda sawl problem dechnegol! O hyn ymlaen, bydd y Cadeirydd ar sail gylchol er mwyn i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar gael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cadeirio.  

headshot of paula wood

Yn gyntaf ar Teams oedd Emma Randles, ymchwilydd PhD yn ei hail flwyddyn a Darlithydd Sesiynol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, a gyflwynodd sgwrs chwe munud anhygoel ar bwnc hynod gymhleth. Mae Emma yn ymchwilio i'r effeithlonrwydd o ganfod bio-farcwyr samplau wrin a gwaed newydd ar gyfer canfod canser y bledren. Esboniodd Emma rhai o brif nodweddion canser y bledren, gan gyfeirio at y ddau fath: Ymledu i'r Cyhyrau (MI), ac Nad yw’n Ymledu i'r Cyhyrau (NMI). Mae’r math cyntaf fel arfer yn fwy anodd i'w drin gan fod y canser wedi treiddio wal y bledren, a mae canser NMI yn aros ar wal y bledren. Yn anffodus, mae 10-20% o’r rheiny sydd â chanser NMI yn gallu datblygu canser MI yn y pen draw os nad ydynt yn derbyn triniaeth.  

Mae Emma yn dymuno archwilio a yw canfod biofarcwyr yn gallu helpu gyda diagnosis canser/achosion o ganser yn dychwelyd, a fyddai yn y pen draw yn lleihau’r baich ar y claf sydd ar hyn o bryd yn profi sawl cytosgopi (proses fewnwthiol lle mae camera’n cael ei roi yn yr wrethra fel bod ymarferwyr yn gallu chwilio am diwmorau canser y bledren). Weithiau, gall llawfeddygon fethu tiwmorau canser y bledren gwastad ar y cytosgop, ac felly gall canfod biofarcwyr o bosib adnabod yr arwyddion o ganser.  

Sgwrs wych, Emma, diolch am roi darlun ddiddorol inni o'ch gwaith ymchwil PhD.  

headshot of emma randles

Dr Karen Heald, Darllenydd mewn Ymarfer Celfyddydau Rhyngddisgyblaethol, oedd yr ail, a bu'n trafod y Grŵp Ymchwil Celfyddydau mewn Iechyd a sefydlwyd yn ddiweddar. Yn gwreiddio o Fore Coffi llwyddiannus y Swyddfa Ymchwil yn yr Ysgol Gelfyddydau, Stryt y Rhaglaw, aeth Karen ati i sefydlu’r Grŵp Ymchwil Celfyddydau mewn Iechyd. Mae’n ardal sy’n datblygu’n raddol lle mae croeso i bawb drafod syniadau ynghylch sut y gall amrywiaeth o arferion artistig neu gerddorol fod o fudd i iechyd a llesiant, ochr yn ochr â chynllunio ar gyfer prosiectau ymchwil ar y cyd. 

headshot of karen heald

Mae’r Grŵp Ymchwil wedi cael sawl cyfarfod hyd yma, ac mae’n annog ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol i ymuno ar gyfer rhannu gwybodaeth a rhwydweithio. Mae’r Grŵp yn cynnwys darlithwyr y celfyddydau, dylunio cynnyrch, iechyd a llesiant, addysg a throseddeg; athrawon coleg gwadd, ymchwilwyr Ôl-ddoethurol, a'n staff gwasanaethau proffesiynol o’r Swyddfa Ymchwil. Mae’r cyfarfod nesaf ar 18fed Chwefror, 10am - cysylltwch â karen.heald@wrexham.ac.uk os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno! 

I orffen, roedd y ddau fywiog o'r adran Addysg, Lisa Formby, Arweinydd Ymchwil, a Tomos ap Sion, Cynorthwyydd Ymchwil. Bu Lisa a Tomos yn trafod y prosiect EREiS (Gwreiddio Ymchwil ac Ymholi mewn Ysgolion), a gyflwynasant yng nghynhadledd BERA (Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain) y llynedd, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn a’i flwyddyn olaf. Mae EREiS yn brosiect sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gynnal ar y cyd â nifer o Brifysgolion, ysgolion, a chonsortia rhanbarthol yng Nghymru.  

Esboniodd Lisa a Tomos y gwahanol gamau o’r prosiect, ac yng ngham un, nododd y tîm bum prif thema sy'n berthnasol i’r defnydd o ymchwil ac ymholi mewn ysgolion; amser a lle, telerau a disgwyliadau, rhwydweithiau, arweinyddiaeth a gallu, dysgu proffesiynol a chyflwyno tystiolaeth a damcaniaeth. Yng ngham dau, bu'r tîm yn canolbwyntio ar drafodaethau gydag arweinwyr ysgolion i archwilio'r pum thema hyn a nodwyd, ond yng nghyd-destun y fframwaith Defnydd Ansawdd o Dystiolaeth Ymchwil (QURE). Yn y cam olaf, aeth y tîm ati i edrych ar weithrediadau system a all gefnogi addysgwyr, ysgolion ac arweinwyr. 

headshots of lisa formby and tomos ap sion

Diolch yn fawr iawn i’r pedwar siaradwr, ac edrychwn ymlaen at weld pawb y tro nesaf yn y Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil, Ebrill 9fed, B103/Teams.