Cyhoeddiad y Mis - Ionawr 2026
.jpg)
'Evaluating digital prehabilitation in cardiac rehabilitation'
Mae Dr Chelsea Batty a’i chydweithwyr wedi cyhoeddi papur yn ddiweddar ar adsefydliad cardiaidd yn y British Journal of Cardiac Nursing.
Mae adsefydliad cardiaidd yn helpu pobl i wella ar ôl cyflyrau ar y galon drwy gefnogi gweithgarwch corfforol, ffordd o fyw iach, ac iechyd hirdymor y galon. Mae ymarfer corff yn rhan allweddol o hyn, gyda chanllawiau’r DU yn argymell y dylai cleifion wneud ymarfer corff cardiofasgwlar yn rheolaidd ar ddwysedd penodol ac am amser penodol i wella ffitrwydd a lleihau risg yn y dyfodol.
Fodd bynnag, ni all llawer o wasanaethau adsefydlu cardiaidd y DU gynnig yr holl sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth a argymhellir, oherwydd prinder staff, amseroedd aros hir, ac adnoddau cyfyngedig. Golyga hyn y gall fod angen i gleifion wneud ymarfer corff yn annibynnol, sy’n ei gwneud yn hynod o bwysig eu bod yn deall pa mor ddwys y dylent ymarfer, ac am ba mor hir.
Bu'r gwerthusiad gwasanaeth hwn yn archwilio p'un a allai rhagsefydliad digidol drwy wylio fideos byr, teilwredig cyn dechrau adsefydliad cardiaidd, helpu cleifion i:
- ddeall a chofio canllawiau ymarfer corff (dwysedd a hyd), a
- theimlo’n fwy parod ac yn fwy hyderus cyn ymuno â dosbarthiadau ymarfer corff.
Bu'r cleifion yn gwylio fideo byr a oedd yn benodol i’w lleoliad lleol a math o raglen (mewn campfa neu hyfforddiant cylchol). Eglurodd y fideos beth oedd i’w ddisgwyl, sut cynhelir sesiynau, a sut i farnu ymdrech ymarfer corff drwy ddefnyddio’r raddfa “Sgôr Ymdrech Ganfyddedig Borg (RPE)”. Cwblhaodd y cleifion arolwg ar-lein byr hanner ffordd drwy’r rhaglen.
Beth oedd canfyddiadau’r tîm?
Dywedodd y rhan fwyaf o gleifion bod y fideos yn ddefnyddiol ac wedi bod o gymorth iddynt deimlo’n fwy hyderus ynghylch gwneud ymarfer corff yn gywir a gwybod beth i’w ddisgwyl. Roedd llawer yn teimlo sicrwydd ac yn fwy parod i gymryd rhan mewn dosbarthiadau.
Fodd bynnag, er yr hyder hwn, ni allai rhan fwyaf o’r cleifion gofio dwysedd yr ymarfer corff nac isafswm hyd yr ymarfer corff argymelledig yn gywir. Roedd y bwlch hwn rhwng teimlo’n hyderus a chofio targedau ymarfer corff allweddol yn arbennig o glir mewn rhaglenni oedd yn seiliedig ar y gampfa, lle mae canllawiau ymarfer corff yn fwy cymhleth.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Ymddengys bod rhagsefydliad digidol yn ddefnyddiol i wella hyder a chynefindra, ond ar ei ben ei hun efallai nad yw’n ddigon i gefnogi’r weithred o gofio canllawiau ymarfer corff yn gywir. Gall fod angen elfennau gweledol cliriach, negeseuon symlach, neu nodiadau atgoffa rhyngweithiol ar fersiynau yn y dyfodol i gefnogi’r cof a hunan-fonitro yn well - yn enwedig i gleifion sy’n gwneud ymarfer corff yn annibynnol.
Mae’r gwerthusiad cynnar hwn yn amlygu gwerth posibl adnoddau digidol, a hefyd yn dangos pa agweddau sydd angen eu mireinio i gefnogi adsefydliad cardiaidd effeithiol a diogel yn well.