Llwyfan Map Cyhoeddus - Llwybrau at Effaith

Paper hanging up

Fel rhan o’n cyfres o flogiau Llwybrau at Effaith, rydym yn edrych ar waith y tîm Llwyfan Map Cyhoeddus. Yn arbennig, sut maent yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol i ddatblygu eu canfyddiadau y tu hwnt i’r byd academaidd er mwyn effeithio ar newid ystyrlon mewn awdurdodau lleol yn y meysydd llesiant cymunedol a gwytnwch newid yn yr hinsawdd. 

Cefndir
Mae’r prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus (PMP) a lansiwyd ym mis Medi 2023 yn brosiect ymchwil cydweithredol rhwng Prifysgolion Caergrawnt, Caerdydd, Wrecsam, a Bangor. Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), rhoddwyd y grant o £4.6 miliwn i gefnogi’r gwaith ymchwil ar sut y gall awdurdodau lleol ddal gwerth amgylcheddol, diwylliannol a chymunedol i lywio’u systemau cynllunio a gwella’r trawsnewid gwyrdd ar Ynys Môn.

Mae’r Athro Alec Shepley, Deon Cyswllt ar gyfer Ymchwil, yn arwain tîm ymchwil Wrecsam sy’n cynnwys Dr Tristian Evans, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol, a Dr Rachel Hughes, Athrogwadd, ymysg eraill.

Mae amcanion y tîm PMP yn cynnwys:

  • Cefnogi plant, pobl ifanc a chymunedau i gael llais wrth gynllunio a dylunio eu hardaloedd lleol;
  • Cynorthwyo i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith;
  • Gwella data amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol a chymunedol;
  • Ymgorffori hawliau plant;
  • Cryfhau sgiliau digidol plant a phobl ifanc a chefnogi trawsnewid digidol awdurdodau lleol i gefnogi cynllunio lleol.

Mae gan y tîm fframwaith Ddamcaniaeth o Newid mewn lle i fonitro a gwerthuso effaith, sydd wedi’i mireinio a’i symleiddio er mwyn helpu i sicrhau cyflawni’r amcanion hir dymor; amcanion fel set lawn o fapiau’r Llwyfan Map Agored Cymunedol (COMP) o’r DU i gynorthwyo i wneud penderfyniadau tryloyw ac ar sail tystiolaeth ledled yr awdurdodau lleol. 

Ymchwil
Mae’r tîm ymchwil (pennaeth a chyd-ymchwilwyr) ynghyd â mapwyr cymunedol a rhwydwaith o feirdd yn defnyddio ffynonellau data presennol yn ogystal â data sydd newydd ei gasglu i greu'r offeryn mapio. Mae gwyddonwyr cymunedol wedi cynnal prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion mewn cydweithrediad ag ysgolion i gynhyrchu data newydd, tra bod beirdd wedi defnyddio amryw o ddulliau creadigol a chyffrous megis:

  • Cerdyn Post o Ynys Môn: Defnyddiodd Lisa Hudson gardiau post i gychwyn sgyrsiau gyda phlant a theuluoedd am y lleoedd da ar Ynys Môn. Dysgwch ragor
  • Lle Llais - yr Ystafell Wledig Grwydrol: wedi’i dylunio gan y cyflwynydd teledu a’r pensaer Piers Taylor, teithiodd o amgylch Ynys Môn yn ystod haf 2024 gan ennyn diddordeb plant a phobl ifanc a rhoi cyfle iddynt helpu i lywio dyfodol eu cymuned wrth i’r gymuned greu mapiau. Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys cyfleoedd mapio dyddiol i deuluoedd, plant, a phobl ifanc a phedwar gwŷdd pensaernïol mawr a gafodd eu haddurno gan y gymuned leol gan ddefnyddio deunydd lleol i adlewyrchu straeon, atgofion a threftadaeth Ynys Môn. Gwyliwch fideo gasgliad ar Lle Llais a darllenwch bostiad blog

Ffaith ddiddorol: darn o gerddoriaeth o'r enw Crwth Thelyn a grewyd ar y cyd gan Henry Horrell a Helen Parri a'i gomisiynu gan Dr. Tristian Evans o Wrecsam i ddal ysbryd Ynys Môn, yw'r trac sain ar y fideo gorffenedig.

  • Mapio’r Dychymyg: mae gweithio gyda beirdd ifanc yn yr ysgolion “gan ddefnyddio barddoniaeth, straeon, rapiau, darluniau, dramâu cysgod a mwy i greu lleoedd fel ‘Y Graig Hyfryd’ a’r ‘Goeden Dalaf ar yr ynys’, neu gymeriadau fel ‘Babi’r Fôr-forwyn’, ‘Y Goblynes’ neu ‘Y Petha Drwg’.” Dysgwch ragor

Back of two people sat on red beanbags outdoors on the grass watching other people

Rhannu Gwybodaeth
Yn ôl y disgwyl, o ystyried natur y prosiect PMP, mae’r tîm wedi defnyddio sawl dull i rannu gwybodaeth (yn ‘draddodiadol’ a chreadigol) wrth geisio cael effaith, gyda rhai enghreifftiau yn cynnwys:

  • Cyflwyniadau cynhadledd: Cyflwynodd Dr Tristian Evans bosteri yng Nghynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yng Nghynhadledd Ymchwilydd Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn haf 2024 gan ganolbwyntio ar fapio dyfodol Môn Mam Cymru.

Cyflwynodd rhai o’r tîm, gan gynnwys yr Athro Alec Shepley, Dr Rachel Hughes a Dr Tristian Evans, bapur yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf o'r enw Lleisiau Nad Ydynt yn Cael eu Clywed yn Aml: Cyd-gynhyrchu Naratifau sy’n Seiliedig ar Le drwy Arferion Celfyddydau Creadigol yng Ngogledd Cymru yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD).

  • Podlediad Y Ferch a’r Cerrig Gwynion: Creodd y bardd Gillian Brownson bodlediad ar gyfer plant yn cynnwys chwedl a ysbrydolwyd gan y plant a’r teuluoedd y bu’n gweithio â hwy wrth ddychmygu ac ail-ddychmygu Ynys Môn mewn sawl ysgol ac fel rhan o ddigwyddiadau Lle Llais. Gwrandewch ar y podlediad
  • Stori fer: Mae ‘The Myth of the Looms’ a ysgrifennwyd gan Georgie Grant o ‘The Onion Collective’ ar gael fel adnodd addysgu: Lawrlwythwch
  • Gweithdai creadigol: mae beirdd, ymchwilwyr, academyddion a thechnolegwyr yn dod ynghyd i adolygu’r hyn y mae’r dulliau casglu data creadigol yn eu cynhyrchu. Gwyliwch fideo byr myfyriol bendigedig yma

Ymgysylltu  
Cyn ystyried ymgysylltu, mae’n berthnasol nodi fod y tîm yn cynnal eu strategaethau ymchwil, rhannu gwybodaeh ac ymgysylltu gydag ymwybyddiaeth ystyriol o drawma. Dylid diolch am hyn i Dr Tegan Brierley-Sollis, a Deborah Robert o Brifysgol Wrecsam am gyflwyno sesiynau hyfforddi sy’n ystyriol o drawma. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys sut i sicrhau bod y broses ymchwil yn ystyried effaith trawma a sut i osgoi ail-fyw’r trawma. Ym mis Ionawr, gwahoddwyd Dr Rachel Hughes i rannu manylion y dulliau ymarferol y bu PMP yn eu cymryd i gefnogi’r tîm ac i ddarparu gweithgareddau mewn modd cynhwysol ystyriol o drawma gyda Grŵp Cyfarwyddol Cenedlaethol Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma.

Mae ymgysylltu dinesig a gwleidyddol wedi bod yn flaenoriaeth ar yr agenda ar gyfer y prosiect PMP ac maent yn gweithio gydag asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus a gwleidyddol allanol i sicrhau bod y fframwaith gwleidyddol yn gywir ac y gallant gael mynediad at yr Aelodau cywir o’r Senedd drwy weithgareddau fel sesiynau galw heibio am wybodaeth a gweithio gyda grwpiau ymgynghorol.

Comisiynydd Plant Cymru
Cysylltodd Comisiynydd Plant Cymru â’r tîm PMP, a oedd eisiau tynnu sylw at waith PMP fel arfer dda i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Roedd y cyfathrebiad yn ymwneud â dyletswydd Gweinidogion Cymru dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn enwedig y gwaith y mae PMP yn ei wneud i gefnogi hawliau plant o ran cynllunio awdurdod lleol. 

Mae Dr Rachel Hughes wedi tynnu sylw at:

  1. Y gallu i ehangu cynllun peilot Ynys Môn i ranbarthau eraill
  2. Fod mapiau a wnaethpwyd gan ac ar gyfer cymunedau i wella’r broses gynllunio yn gyraeddadwy
  3. Fod gwrando ar lais y gymuned leol, yn enwedig y plant a’r bobl ifanc, wrth wraidd holl waith PMP i greu mapiau sy'n cyfleu pam fod lleoedd ar yr ynys yn bwysig iddyn nhw
  4. Gellir defnyddio mapiau i lywio cynllunio, polisïau a datblygiad wrth roi cyfrwng i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau 

Cylch Trafod Cenhadaeth Ddinesig
Mynychodd cydweithwyr o Brifysgol Wrecsam, gan gynnwys Dr Rachel Hughes, y cylch trafod ymchwil sy’n canolbwyntio ar genhadaeth ddinesig, a gynhaliwyd gan Brifysgolion Cymru a Medr ar ddiwedd 2024. Rhannwyd gwaith PMP mewn sesiwn o’r enw Cydweithio, Creadigrwydd, a Chymuned: Dull Gogledd Cymru o Gynnwys Plant a Phobl Ifanc.

Gŵyl Syniadau Economi Llesiant Cymru
Gwahoddwyd PMP i gael stondin yn yr Ŵyl Syniadau ar gyfer Economi Llesiant ac roedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, yn bresennol. Roedd diddordeb mawr yn y prosiect a gwnaethpwyd sawl cysylltiad da. 

Cydweithiodd PMP ag Economi Llesiant Cymru ar ymchwil ynghylch barn pobl am barodrwydd Cymru i newid i economi llesiant. Mae’r ymchwil yn rhan o adroddiad Economi Llesiant Cymru sydd ar y gweill, yn ogystal â dwy ffilm, a haen ar y Llwyfan Map Cyhoeddus. Dysgwch ragor a gwyliwch y ffilmiau.

Partneriaeth Mewnwelediad Gogledd Cymru
Wedi’i gydsefydlu gan Dr Rachel Hughes ac wedi’i ddwyn ynghyd gan Brifysgol Wrecsam, mae Partneriaeth Mewnwelediad Gogledd Cymru yn fenter sy’n dod â phobl a sefydliadau ynghyd i ddatblygu ymchwil sy’n gwella llesiant cymunedau, pobl a lleoedd.

Gweithgareddau Allweddol Eraill

  • Cwrdd â Grŵp Cynghori Cymru sy’n darparu mynediad i amrywiol gyfleoedd, gan gynnwys diweddariadau gan Lywodraeth Cymru ar y Polisi Cymunedau a llwyfan ar gyfer dull PMP o fapio perthynol i’w gyflwyno ledled y DU a Grwpiau Cynghori Lleol.
  • Sefydlu’r Grŵp Cynghori Rhanbarthol cyntaf ym mis Ionawr 2025, gyda PMP yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o wahanol sectorau a meysydd polisi sydd â diddordeb yng ngweithgaredd Gogledd Cymru ac arddangos y llwyfan a’i ddatblygiad.
  • Mynychu Y Farchnad yn y Senedd, digwyddiad i gysylltu â gwahanol grwpiau cymunedol a thrafod ystod o bynciau. Trafodaeth gydag Aelodau o’r Senedd (AS) yn canolbwyntio ar y prosiect PMP, pam ei fod yn cael ei gynnal, beth yw’r manteision a pham fod angen i aelodau’r Senedd wybod amdano, gyda Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn un rheswm. Dywedodd Alec Shepley “roedd gan yr holl AS ddiddordeb mawr, yn arbennig yn ein dulliau arloesol a chreadigol o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a’n dull o wrando arnynt a mapio eu barn.”

Group of researchers stood behind a table looking at the camera at an event

Cadwch Lygad Allan
Mae rhai enghreifftiau gwych uchod o rannu gwybodaeth ac ymgysylltu ar y llwyfan i gael effaith, ac mae mwy i ddod gan gynnwys yr Athro Alec Shepley a Dr Tristan Evans yn cyflwyno papur o'r enw 'How Art Practice, Creative and Place-Based Approaches Can Serve as a Catalyst to Enable Communities to Shape Their Future', yng Nghynhadledd Ewropeaidd y Celfyddydau a'r Dyniaethau sy'n rhedeg o ddydd Iau 10 i ddydd Llun 14 Gorffennaf 2025. Dathlu’r Prosiect ym mis Medi yn Neuadd y Senedd, a noddwyd gan Rhun ap Iorwerth AS Ynys Môn ac Arweinydd Plaid Cymru, lle mae PMP yn bwriadu rhannu effaith a galw am weithredu. Arddangosfa yn Arddangosfa Pensaernïaeth Ryngwladol La Biennale di Venezia o fis Mai – Medi 2025, gwahoddiad i gynnal gweithdy yng Nghynhadledd Tlodi Plant yn Llandudno ym mis Mehefin a gwahoddiad i gefnogi dull rhanbarthol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru i gynnal Asesiad Risg Newid Hinsawdd ymysg gweithgareddau eraill. 

Gwaith anhygoel ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd pethau’n datblygu.