Cyhoeddiad y Mis - Tachwedd
.jpg)
Jocis a Mamolaeth: Heriau i Ferched yn y byd Rasio Ceffylau
Mae papur diweddar gan y graddedig Dr Ciara Losty, ac Uwch Ddarlithydd Seicoleg, Dr Shubha Sreenvias yn ymchwilio’r “Rhwystr Nesaf”.
Mae rasio ceffylau yn anodd, yn gorfforol ac yn feddyliol. I jocis benywaidd, caiff yr heriau eu hategu gan rwystrau o ran rhywedd, oriau hir, a’r straen unigryw o gyfuno gyrfa perfformiad uchel â mamolaeth. Yn ôl ymchwil mae bron i 80% o jocis yn Iwerddon yn profi trafferth iechyd meddwl o ryw fath, ac yn aml mae athletwyr benywaidd yn wynebu anfanteision a disgwyliadau ychwanegol o gymharu â dynion.
Yn hanesyddol, dynion sydd wedi rheoli’r byd rasio ceffylau, gyda jocis benywaidd yn cael eu gweld yn wannach neu â llai o allu. Er bod newidiadau mewn polisïau yn caniatáu merched i farchog a hyfforddi ynghyd â dynion, mae stereoteipiau o ran rhywedd ac anghydraddoldebau strwythurol yn parhau. Mae jocis benywaidd yn llai tebygol o gael cyfleoedd, cymorth, neu gydnabyddiaeth o gymharu â’u cyfatebwyr gwrywaidd, a gall pwysau cymdeithasol godi awgrym bod mamolaeth yn anghydnaws â’u gyrfaoedd.
Daw beichiogrwydd a bywyd fel rhiant â heriau ychwanegol. Mae llawer o athletwyr benywaidd o’r farn bod rhaid iddyn nhw oedi dechrau teulu tan ar ôl eu gyrfaoedd, oherwydd ofni rhwystrau corfforol, colli momentwm gyrfa, neu gael eu gweld yn llai ymrwymedig. Mae jocis yn cymharu beichiogrwydd â chael anaf: mae’r ddau beth yn eu hatal rhag rasio ac yn amharu ar yrfa fer a hynod ddwys. Caiff pryderon ynghylch anafiadau eu cryfhau gan y cyfrifoldebau am ofalu am blant, gan arwain at benderfyniadau i osgoi risgiau.
Mae cefnogaeth mewn rasio ceffylau gamau y tu ôl i chwaraeon eraill. Er bod rhai sefydliadau, megis Sport Ireland a’r Rugby Football Union, bellach yn cynnig polisïau mamolaeth ac arweiniad ar ddychwelyd i chwaraeon elît, mae’r diwydiant rasio ceffylau’n parhau’n “rhy draddodiadol ac yn erbyn newidiadau.” Prin iawn yw’r esiamplau da o jocis sy’n famau, sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd byth i ferched ddychmygu parhau yn y maes.
Amlyga’r astudiaeth yr angen dybryd am bolisïau cynhwysol sy’n cefnogi jocis benywaidd drwy feichiogrwydd a mamolaeth. Gallai cyfnod mamolaeth yn canolbwyntio ar jocis, trefniadau gweithio hyblyg, ac esiamplau da mewn rolau arwain helpu i gadw merched dawnus a herio’r hyn sy’n normal yn y diwydiant. Heb y newidiadau hyn, mae’r maes yn wynebu risg o golli jocis profiadol a bydd yn atal cenedlaethau’r dyfodol o ferched rhag dilyn gyrfa mewn rasio.
Yn y pen draw, nid oes rhaid i famolaeth a rasio ceffylau ddigwydd ar yr un pryd, ond mae’n rhaid i’r diwydiant ddatblygu i wneud hynny’n bosibl.
Darllenwch y papur cyfan: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0001691825011357