Dr Shubha Sreenivas
Darlithydd mewn Seicoleg Fiolegol
- Ystafell: M308
- Ffôn: 01978 294401
- E-bost: Shubha.Sreenivas@glyndwr.ac.uk
Fe wnes i fy PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd fy ymchwil yn canolbwyntio ar hunan-briodoli ymddangosiad yr wyneb fel rhagfynegydd cynnar o welliant mewn cyflwr hwyliau isel. Roedd hyn yn unol â’m gwaith ymchwil clinigol blaenorol (dan arweiniad yr Athro David Linden, Prifysgol Caerdydd) oedd yn ceisio deall y gweithgaredd ymddygiadol a niwral sy’n gysylltiedig ag anhwylderau hwyliau.
Wedi cwblhau fy PhD yn 2016, gweithiais gan fwyaf gyda Gwasanaethau Seicoleg Oedolion Hŷn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel Seicolegydd Cynorthwyol (SC). Yn y rôl yma, roeddwn yn cynnal asesiadau niwroseicolegol i gefnogi diagnosis dementia, gan weithio gyda’r Timoedd Iechyd Meddwl Cymunedol. Cefais gyfle hefyd i weithio fel rhan o’r timoedd Iechyd Meddwl Oedolion i gynorthwyo gydag asesiad ar gyfer Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth, a chysgodi Seicolegydd Clinigol yn Uned Strôc Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y cyfleodd yma i gefnogi pobl hefyd yn caniatáu imi gymhwyso a dysgu mwy am seicoleg glinigol a niwroseicoleg. Fel Seicolegydd Cynorthwyol cefais gyfle prin i ymgymryd ag ymarfer mapio ar Ynys Môn ar anghenion anaddysgol disgyblion ar ddatganiad (2015-16), dan arweiniad Dr Susan Hamilton, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Plant Ardal y Gorllewin, BIPCC, ac adrodd ar hynny i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyn cychwyn ar fy PhD, gweithiais fel Rheolwr Data yn Uned Treialon Clinigol Bangor. Yn y rôl yna, roeddwn yn cydlynu a goruchwylio’r gwaith o reoli data treialon aml-ganolfan amrywiol yn y DU, a datblygu gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer rheoli data ar gyfer yr uned. Yn ychwanegol at hyn, mae gennyf ystod o brofiad gwaith yma yn y DU ac yn India, gan gynnwys dysgu, cysylltiadau cyhoeddus a newyddiaduriaeth. Rwy’n cefnogi elusennau, gan gynnwys gweithio gyda phobl ddigartref drwy gynnig cefnogaeth ymarferol ac uwchsgilio. Rwy’n mwynhau darllen a dysgu sgiliau newydd, boed hynny’n grefftau cartref neu ddawnsio. Yn fwy diweddar rydw i wedi dod i fwynhau garddio, ac mae hyn yn fy helpu i gadw fy nhraed ar y ddaear.
Rwy’n cefnogi’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) gyda gweithgareddau codi arian (a gwirfoddoli fy ngŵr!) ac yn y gorffennol wedi gwirfoddoli gyda’r Ganolfan Ddydd yng Nghaergybi sy’n cefnogi pobl sy’n ddigartref i geisio am swyddi i oresgyn eu trafferthion. Yn fy amser hamdden ryw’n mwynhau darllen a choginio, ond mae teithiau cerdded natur/arfordirol yn galw pan fo’r tywydd yn braf. Rwyf hefyd yn mwynhau hwylio (pan fo’r gwynt islaw 5 milltir môr) a chaiacio. Mae bod yn griw llong i fy ngŵr wrth hwylio o amgylch Ynys Môn yn dal i fod yn un o’m llwyddiannau gorau! Rydw i hefyd yn mwynhau gwneud gwelliannau i’r cartref, ac yn gallu mynd dros ben llestri ar ôl gwylio Homes Under the Hammer.
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiadau | Math |
---|---|---|
2019 | Meditation on the Soles of the Feet Practice Provides Some Control of Aggression for Individuals with Alzheimer's Disease, Mindfulness, 10. [DOI] Singh, Nirbhay N.;Lancioni, Giulio E.;Medvedev, Oleg N.;Sreenivas, Shubha;Myers, Rachel E.;Hwang, Yoon-Suk |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
2018 | Meditation on the Soles of the Feet Practice Provides Some Control of Aggression for Individuals with Alzheimer’s Disease, [DOI] Singh, Nirbhay N.;Lancioni, Giulio E;Medvedev, Oleg N;Sreenivas, Shubha;Myers, Rachel E;Hwang, Yoon-Suk |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
2017 | The role of serotonin in personality inference: tryptophan depletion impairs the identification of neuroticism in the face, Psychopharmacology. [DOI] Ward, Robert;Sreenivas, Shubha;Read, Judi;Saunders, Kate, E. A.;Rogers, Robert, D. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
2011 | Emotional faces and the default mode network, Neuroscience letters. [DOI] Sreenivas, S.;Boehm, S. G.;Linden, D. E. J. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
2020 | Chartered Psychologist | British Psychological Society |
2012 | Graduate Basis for Chartered Membership | British Psychological Society |
2020 | Fellow of the Higher Education Academy | Advance HE |
Corff Dyfarnu
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
British Psychological Society | Chartered member |
Ieithoedd
Iaith | Darllen | Ysgrifennu | Siarad |
---|---|---|---|
Tamil | Dim Hyfedredd | Dim Hyfedredd | Hyfedredd Elfennol |
Welsh | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol |
English | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog |
Hindi | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig |
Malayalam | Hyfedredd Proffesiynol | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog |
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Dysgu | Subject |
---|---|
Biological Psychology | PSY755 |
Cognitive Psychology | PSY762 |
Intermediate Research Methods | PSY508 |
Forensic Psychology | PSY609 |
Introduction to qualitative research methods and analysis skills for psychology | PSY422 |
A Mini Project in Psychology | PSY330 |
Introduction to Psychology 1 | PSY332 |
Biological Psychology | PSY511 |
Research Methods | PSY750 |