Tîm Addysg yn bresennol yng Nghynhadledd CYAP (Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain)

Fis diwethaf bu Dr Sue Horder, Karen Rhys-Jones, Lisa Formby a Tomos Gwydion ap. Sion o’r Adran Addysg yn cyflwyno eu hymchwil yn un o’r cynadleddau pwysicaf yng nghalendr Addysg Prydain. Cynhaliwyd Cynhadledd CYAP ym Mhrifysgol Aston ym Mirmingham, rhwng y 12fed a’r 14eg o Fedi, ac roedd dros 30 o themâu yno a 200 o sesiynau i’w mynychu gan gynnwys symposiwmau, grwpiau o ddiddordebau penodol, gweithdai, trafodaethau panel, papurau unigol a gweld posteri. 

Cyflwynodd y tîm y gwaith cydweithredol a wnaed yn ystod rhan gyntaf y ‘Prosiect Siarad Pedagogeg’ o fewn symposiwm. Cyflwynodd Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru, ochr yn ochr â sgwrs ragarweiniol gan Mark Ford, Cynghorydd Pedagogeg Llywodraeth Cymru. O achos llwyddiant Prosiect Siarad Pedagogeg, mae Adran Addysg Prifysgol Wrecsam bellach yn cydweithio ar gam nesaf yn y prosiect pwysig yma. 

Nos Fercher, mynychodd y tîm ddigwyddiad cymdeithasol y gynhadledd, sef cinio yng Ngerddi Botanegol Birmingham. Yno, bu i’r rhwydweithio barhau gyda gerddi hardd, tai gwydr yn llawn planhigion, a hyd yn oed parot siaradus a Dewin hud, yn gefndir i’r cyfan.

Crynodeb y Prifysgolion ar y cyd:

Cydweithio, partneriaethau ac asiantaethau ar draws y system addysg yng Nghymru

Mae’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru (2022) yn cynnig y cyfle i wyro oddi wrth yr arferion traddodiadol o fewn addysg. Mae’n cynnig lefel ddisgynsail o ymreolaeth i ymarferwyr ac yn rhoi mwy o ryddid iddynt ddiwallu anghenion eu dysgwyr. Mae dull o’r fath yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau ymarferwyr i nodi a datblygu’r profiadau addysgu penodol y credant a fyddai o’r budd mwyaf i’w dysgwyr.

Cafodd y Prosiect Siarad Pedagogeg ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion i archwilio’r 12 Egwyddor Addysgeg fel y nodir yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r prosiect yn dod â Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) ar draws Cymru a’r Alban ynghyd, yn ogystal ag Ysgolion a Llywodraeth Cymru. Cafodd SAU eu paru gyda thair ysgol. Gweithiodd Academyddion o’r SAU ochr yn ochr â Phrif Athrawon ac ymarferwyr er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddulliau dysgu dilys yn ymwneud â’r 12 Egwyddor Addysgeg. Er mwyn hwyluso hyn, nodwyd pum thema: dysgu dilys yn yr ystafell ddosbarth; gofod/lle dysgu dilys; dysgu dilys yn yr awyr agored; dysgu dilys ar sail problem/ymholiad, a dysgu cydweithredol dilys. Nod y symposiwm hwn yw trafod pedwar o’r dulliau hyn a’r canfyddiadau allweddol a ddeilliodd o’r broses hon. Cynrychiola’r papurau hyn y cyfraniad ar y cyd at alluogi ymarferwyr i wireddu’r Cwricwlwm newydd i Gymru’n well. 

Crynodeb o Bapur Cynhadledd Prifysgol Wrecsam:

Sut all SAU gefnogi ymchwil ac ymholiadau mewn ysgolion: pwysigrwydd perthnasau cydweithredol ystyrlon. 

Dr Sue Horder, Lisa Formby, Dr Karen Rhys-Jones & Tomos Gwydion ap Sion - Prifysgol Wrecsam 
Dr Richard Watkins - GwE, Gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol Gogledd Cymru

Mae’r papur hwn yn archwilio sut mae perthnasau cydweithredol yn medru chwarae rhan allweddol wrth wreiddio a chefnogi ymchwil ac ymholi mewn ysgolion. Er bod llawer o waith ymchwil wedi’i wneud ar grynodebau ymchwil ar gyfer ysgolion (e.e. Gorard, et al., 2020; Rycroft-SMith, 2022; Sjölund, et al., 2022), ychydig o ymchwil sydd wedi’i ffocysu ar sut mae SAU yn medru chwarae rôl fwy gweithredol yn y broses hon, trwy edrych yn weithredol ac adeiladol ar yr ymchwil.

Fel rhan o’r broses gydweithredol, darparodd y Brifysgol grynodebau ymchwil hygyrch i dair ysgol ynghylch dau ddull addysgeg: dysgu awyr agored a dysgu cydweithredol. Dilynwyd hyn gan sesiynau deialog gweithredol ac adeiladol (yn siarad am bedagogeg). Cadarnhaodd y crynodebau beth yr oedd ymarferwyr yn ei wybod eisoes ac yn rhoi hyder iddynt archwilio cyfeiriadau newydd, gan arwain at newid mewn meddwl am bosibiliadau amgen i ddatblygu profiadau dysgu ystyrlon. Mae’r broses gydweithredol yn cynrychioli dull partneriaeth ble mae’r SAU yn ‘gwneud yr hyn a wnânt orau’ drwy adeiladu a chefnogi sylfaen ymchwil i ymarferwyr ei harchwilio a’i thrafod, a lle gall yr ymarferwyr, sy’n gwneud yr hyn a wnânt orau, wreiddio eu dealltwriaeth o fewn eu cyd-destun.