Tŷ Agored, Ebrill 2024

sound tech student

Cynhaliwyd Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil yn ystod wythnos Cynhadledd Staff ac Ymchwilwyr Ôl-radd Springboard –  gawsoch chi gyfle i ymuno â ni? Unwaith eto, cynhaliwyd y sesiwn ar ffurf hybrid, gyda thri yn siarad yn y digwyddiad, ac un yn ymuno ar-lein drwy Teams. 

Y gyntaf i siarad oedd Elena Cassidy-Smith, myfyriwr ymchwil ôl-radd mewn Celfyddyd Gain. Testun Elena oedd,‘Temporal Tales: Local Ecologies and living through the Anthropocene’. Siaradodd Elena am ei PhD seiliedig ar ymarfer, a oedd yn cynnwys gweithio yn Ironbridge, Telford - sefydliad treftadaeth ddiwydiannol sy'n cynnal deg o amgueddfeydd ac amryw o safleoedd hanesyddol. Yn Amgueddfa Ironbridge, mae'r "gorffennol yn y presennol o hyd", hynny yw mae'r gorffennol gyda ni nawr.  

Mae Ironbridge yn edrych yn ôl ar gyfnod cynnar yr oes ddiwydiannol, a bu Elena yn archwilio'r modd rydym yn ein lleoli ein hunain ar wahân i'r byd naturiol, gan fod mewn gofod ond heb fod mewn sefyllfa sefydlog, gan ofyn 'a ydyn ni wedi colli adnabod ar yr amgylchedd naturiol?' Bryd hynny, roedd tlodi i'w weld yn amlwg, gyda phenderfyniadau anodd yn cael eu gwneud rhwng tanwydd a bwyd; yn anffodus, mae'r sefyllfa hon yn ei hôl.  

Ein siaradwr nesaf oedd Karen Rhys-Jones, Prif Ddarlithydd mewn Addysg a soniodd am fynd i gynhadledd yn Efrog Newydd yn gysylltiedig â  gwaith ar gyfer ei doethuriaeth. Teitl y gynhadledd oedd 'Insight and Inspiration' ac roedd Karen wedi mynd i'r digwyddiad ar ôl ennill Gwobr Datblygiad Ymchwilwyr gan y Swyddfa Ymchwilwyr.  

Siaradodd Karen am themâu llythrennedd corfforol, cysyniadau cyfannol, a’r cymhelliant a’r ddealltwriaeth i werthfawrogi gweithgarwch corfforol am oes, ochr yn ochr â’r rhwystredigaeth mai’r agwedd effeithiol oedd yr un anoddaf i’w mesur, er mai dyna oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. 

Roedd cwestiynau gan gynrychiolwyr rhyngwladol yn fodd i'w hysbrydoli, gan achosi newid i brosesau meddwl ac arferion ym mhopeth a wna  Karen - yn bennaf, meddwl yn gyfannol ac ystyried pob agwedd ar unigolion.  

Y brif neges y daeth Karen adref gyda hi oedd 'torri eich brethyn' ar gyfer eich cyfnod ysgrifennu nesaf ar ddiwedd eich cyfnod ysgrifennu cyfredol.  

Y trydydd siaradwr oedd Dr Jason Woolley, Darlithydd Cyflogadwyedd, o Dechnoleg y Cyfryngau Creadigol. Testun Jason oedd ‘LCR: A Valuable Multichannel Proposition for More Media (Music) Production?’ 

Unwaith eto, thema sgwrs Jason oedd amser; siaradodd am y tensiwn mewn cerddoriaeth ac wrth gynhyrchu sain, natur gystadleuol y diwydiant, ond ein bod yn byw mewn oes lle ceir cymaint o ddewis y bydd hynny'n aml yn ein rhwystro rhag gallu gwneud penderfyniadau. Wrth gynhyrchu sain a'r cyfryngau, mae yna ormodedd bron o ddewis sy'n golygu nad yw'r gwaith yn cael ei gwblhau yn y pen draw.  

Er enghraifft, siaradodd Jason am ddatblygiad esbonyddol sain ers cyfnod y Beatles, a'r modd y gallwch chi bellach gael system sain sy'n cynnwys seinyddion o amgylch yr holl ystafell, yn hytrach na Chwith, Canol a Dde (LCR) yn unig. 

Cynhaliodd Jason rywfaint o ymchwil gyda Sefydliad Stockholm, Sweden, lle cyflwynwyd pum darn o gerddoriaeth i ymatebwyr wrando arnynt, dewis eu ffefryn ac esbonio pam. Roedd y gerddoriaeth naill ai'n LCR neu yn yr ystod lawn, ac roedd gan yr ymchwilwyr ddiddordeb mewn canfod y rhesymau wrth wraidd dewisiadau'r ymatebwyr. Canfuwyd rhaniad cyfartal rhwng LCR ac ystod lawn, gyda dadansoddiad yn dangos bod yr ymatebwyr yn dewis cerddoriaeth ar sail themâu emosiynol.  

Daeth Jason i'r casgliad nad oes unrhyw reswm da dros roi'r gorau i LCR, ac eithrio'r ffaith bod cwmnïau o bosib eisiau gwerthu technolegau newydd.  

Ein siaradwr olaf oedd Dr Yuriy Vagapov, Darlithydd Peirianneg Drydanol a soniodd am eu cyflwyniad mewn cynhadledd ddiweddar yn Nulyn. Amlinellodd Yuriy brosiect FAST Fan (dan arweiniad Dr Rob Bolam), sef gyriant trydanol ar gyfer awyrennau'r dyfodol.  

Nid oes gan y FAST Fan fodur mewnol - mae'r modur yn y both ac wedi'i ddosbarthu o amgylch ymyl y gwyntyll. Fel arfer, bydd gwyntylloedd yn gweithredu ar gyflymder isel, ond mae'r gwyntyll hwn wedi'i ddylunio i weithredu ar gyflymder uchel. Mae'r ddyfais yn gymhwysiad unigryw, a nawr bod ganddyn nhw brototeip, mae angen i'r tîm ymchwilio i nodweddion pellach. Y cam nesaf yw gosod y FAST Fan ar awyren heb griw, fel drôn datblygedig.