Prifysgol Wrecsam yn Cynnal 15fed Cynhadledd Flynyddol Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Troseddol

Ar 5-6 Mai, croesawodd staff ac ymchwilwyr o Adran Droseddeg, y Gyfraith a Phlismona Prifysgol Wrecsam gynadleddwyr led-led Cymru ar gyfer 15fed Cynhadledd Flynyddol Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru (CTCCC).
Bu i’r gynhadledd ddwyn ynghyd academyddion, ymarferwyr, ymchwilwyr ôl-radd a gweithwyr proffesiynol plismona er mwyn archwilio problemau cyfoes o fewn troseddeg, plismona, y gwasanaeth prawf, cyfiawnder, bregusrwydd a niwed cymdeithasol.
Agorodd y digwyddiad gydag areithiau croeso gan yr Athro Jo Yates (Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam) a’r Athro Martina Feilcer (Cyfarwyddwr CTCCC), pwy gyflwynodd thema’r gynhadledd ac yn adfyfyrio ar bwysigrwydd defnyddio tystiolaeth ac ymchwil er mwyn herio systemau sy’n bodoli eisoes mewn ffordd adeiladol a datblygu ffyrdd newydd o feddwl.

Ail-ddychmygu’r gwasanaeth prawf a chyfiawnder cymdeithasol
Roedd y cyfarfod agoriadol, a gadeiriwyd gan Dr Zoe Cross (Dirprwy Gyfarwyddwr CTCCC), yn cynnwys yr Athro Mike Maguire o Brifysgol De Cymru a’r Athro Kate Williams o Brifysgol Aberystwyth (Dirprwy Gyfarwyddwr CTCCC), a drafododd y prosiect “Llwybrau Mawr” yn archwilio modelau newydd o’r gwasanaeth prawf yn y gymuned.
Canolbwyntiodd y prosiect deg mlynedd ar ddulliau yn seiliedig ar gryfderau ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned o oruchwylio’r gwasanaeth prawf, gan annog gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol, cefnogi cysylltiadau teuluol a lleihau eithrio cymdeithasol. Adfyfyriodd siaradwyr ar lwyddiannau a heriau mewnosod y gwasanaethau prawf o fewn cymunedau lleol, gan dynnu sylw at berthnasoedd gwell, gwell ymgysylltu, a deilliannau ailintegreiddio cryfach ar gyfer pobl sydd ar brawf.
Plismona gwledig, troseddau cyfundrernol a bregusrwydd
Roedd sesiynau cyfochrog drwy gydol y gynhadledd yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau. Mewn sesiwn ar blismona gwledig, cyflwynodd Alicia Edwards o Brifysgol Bangor (Cydlynydd WCCSJ) ganfyddiadau newydd ar droseddau amaethyddol cyfundrefnol yng Nghymru, gan dynnu ar arsylwadau ar Uned Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a chyfweliadau gyda gweithwyr proffesiynol plismona gwledig.
Archwiliodd Demi John o Brifysgol Aberystwyth fregusrwydd a disgresiwn mewn plismona ymateb yng nghefn gwlad drwy ymchwil ethnograffig oedd yn sail i’w profiadau eu hunain fel Cwnstabl Rhan-amser.
Yn y cyfamser, archwiliodd Dr Kathy Hampson agweddau tuag at blant oedd yn gysylltiedig gyda delio cyffuriau llinellau sirol, gan drafod y symudiad parhaus o edrych ar droseddu i gydnabod bregusrwydd ac ecsbloetio.
Cyfiawnder i’r ifanc, trawma ac ymchwil moesegol
Bu i sesiynau ar gyfiawnder i’r ifanc dynnu sylw at ddulliau hyblyg sy’n ystyriol o drawma tuag at ymchwil ac ymarfer.
Trafododd Dr Hannah John-Evans a Dr Caroline Huskins reoli llwyth gwaith yn well a gweithio’n gydweithredol o fewn y gwasanaethau cyfiawnder i’r ifanc.
Adfyfyriodd Katrina Jones o Brifysgol De Cymru ar hyblygrwydd, safle ac ymarfer moesegol mewn gwaith ymchwil cyfiawnder i’r ifanc, yn arbennig felly wrth weithio o fewn amgylcheddau hynod gymhleth sy’n llawn emosiwn.
Cyflwynodd Dr Tegan Brierley-Sollis o Brifysgol Wrecsam ymchwil ar drawma, atodiad, a chyd-reolaeth mewn lleoliadau cyfiawnder i’r ifanc, gan bwysleisio pwysigrwydd perthnasoedd ymarferwyr cydweddus a thraweffaith posib dulliau sy’n ystyriol o drawma ar blant ac ymarferwyr.

Defnyddio sylweddau, cam-drin domestig a phrofid bywyd
Agorodd diwrnod dau gyda chyflwyniadau gan yr Athro Katy Holloway, Dr Marian Buhociu, a Dr Shannan Murray o Brifysgol De Cymru, a rannodd gwaith parhaus oedd yn berthnasol i ddefnyddio sylweddau, lleihau niwed, ac ymwneud y cyhoedd mewn ymchwil ar draws Cymru.
Canolbwyntiodd sesiynau pellach ar gam-drin domestig a thrais personol tuag at bartner. Cyflwynodd Diana Fologea ganfyddiadau cynnar o waith ymchwil oedd yn gwerthuso ymatebion teulu cyfan i gam-drin domestig yng Nghymru.
Archwiliodd Gemma Lunt o Brifysgol Wrecsam draweffaith y Ddeddf Cam-drin Domestig ar ymatebion i lindagu oedd heb fod yn farwol, gydag Helena Barlow yn trafod profiadau bywyd menywod o stelcio gan gyn-bartner a thraweffeithiau hirdymor hynny ar les a bywyd teuluol.

Dwyn ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd ar draws Cymru
Ochr yn ochr â phrif sgyrsiau a sesiynau cyfochrog, cafodd cynadleddwyr gyfleoedd i rwydweithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru ac ymgysylltu gyda gwesteion a wahoddwyd gan Heddlu Gogledd Cymru.
Tynnwyd sylw at ystod yr ymchwil troseddeg, plismona a chyfiawnder oedd yn digwydd ar hyn o bryd led-led Cymru yn y gynhadledd, ac ar yr un pryd darparodd amgylchedd cefnogol a chydweithredol i ymchwilwyr ôl-radd ac academyddion gyrfa gynnar rannu eu gwaith.
Hoffai Prifysgol Wrecsam ddiolch i Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru am ddewis Wrecsam fel y lleoliad i gynnal cynhadledd eleni, yn ogystal â’r holl brif siaradwyr, cyflwynwyr, cynadleddwyr a gwesteion a wahoddwyd a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad.