decorative

Amdan y Tîm Menter ym Mhrifysgol Wrecsam

Gan chwarae rhan allweddol yn y gymuned fusnes yng Ngogledd Cymru, mae Tîm Menter Prifysgol Wrecsam yn cydweithio â sefydliadau o bob maint a sector — o fusnesau bach newydd i gorfforaethau byd-eang. Mae gan y Tîm Menter hanes cryf o ddarparu cefnogaeth fusnes o ansawdd uchel a chreu partneriaethau ystyrlon.

Drwy weithio gyda ni, gall eich busnes elwa o rannu gwybodaeth, arbenigedd, a mynediad at raddedigion talentog sy’n barod i wneud argraff yn y gweithlu. Rydyn ni’n cydnabod bod pob busnes yn unigryw, a dyna pam y bydd ein tîm datblygu busnes pwrpasol yn teilwra’r gefnogaeth gywir i ddiwallu eich anghenion penodol. Gyda’n gilydd, gallwn eich helpu i gyflawni llwyddiant busnes.

Prif Feysydd Ffocws

Mae’r Tîm Menter yn canolbwyntio ar bedwar prif faes: Trosglwyddo Gwybodaeth (TG) ac Arloesi a Masnacheiddio; yr Ecosystem Entrepreneuriaeth; Sgiliau, Hyfforddiant a Datblygu; Dysgu sy’n Gysylltiedig â Gwaith. 

A graphic displaying

Mae’r tîm Arloesi a Masnacheiddio (I&C) yn rhan o’r Tîm Menter ehangach, a’i rôl sylfaenol yw cynorthwyo gydag arloesiadau prifysgol ar eu taith fasnacheiddio yn ogystal â hwyluso ein Menter Trosglwyddo Gwybodaeth.

Darganfyddwch fwy am Arloesi a Masnacheiddio

Mae’r tîm Entrepreneuriaeth, sydd wedi’i wreiddio yn y Tîm Menter ehangach, wedi ymrwymo i ddatblygu ecosystem entrepreneuriaeth ffyniannus. Mae’n cefnogi myfyrwyr, graddedigion, ac aelodau staff i ddatblygu sgiliau a meddylfryd entrepreneuraidd drwy ystod o fentrau o fewn y cwricwlwm ac allgyrsiol. Mae’r tîm yn darparu arweiniad ar bob cam o’r daith cychwyn busnes, o ddatblygu syniadau i sicrhau cyllid, gan helpu i feithrin arloesedd a thwf busnes o fewn cymuned y brifysgol a thu hwnt.

Darganfyddwch fwy am Wella Entrepreneuriaeth

Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) megis Sgiliau, Hyfforddiant a Datblygu yn cwmpasu ein hystod o Brentisiaethau Gradd, Gweithdai Proffesiynol a Chyrsiau Byr. Darganfyddwch fwy am bob un drwy ddilyn y dolenni isod:

Prentisiaethau Gradd

Gweithdai Proffesiynol

Cyrsiau Byr

Cysylltwch â ni

Mae modd cysylltu â'r Tîm Menter ar enterprise@wrexham.ac.uk