Arloesedd a Masnacheiddio
Cefnogi trawsnewid syniadau arloesol yn gymwysiadau byd go iawn.
Mae’r tîm Arloesedd a Masnacheiddio (I&C) yn rhan o adran Fenter Prifysgol Wrecsam, a’i brif rôl yw cynorthwyo gyda thaith fasnacheiddio arloeswyr ein prifysgol.
Mae gweledigaeth cenhadaeth ddinesig ein prifysgol o "ymchwil sy'n trawsnewid" yn rhan annatod o'n hymdrechion arloesi a masnacheiddio. Drwy flaenoriaethu gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd yn ein hymchwil, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer arloesiadau sy’n sbarduno dysgu a thwf economaidd.