
Ymgynghoriaeth chwaraeon a phrofi perfformiad
Ydych chi wedi gosod nod bersonol uchelgeisiol i chi’ch hun i gwblhau ras 10k neu farathon? Ydych chi’n dîm chwaraeon sy’n chwilio am gymorth gyda’ch hyfforddiant, diet, techneg neu feddylfryd?
Mae Labordy Biomecaneg a Gwyddorau Perfformiad Prifysgol Wrecsam yn cynnig gwasanaethau ymgynghoriaeth i unigolion a thimau. Mae’r tîm yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i athletwyr, unigolion di-brofiad a thimau i ddatblygu ymhellach eu perfformiad, iechyd, ymarfer corff a maeth.
Catalog Profi Perfformiad (prisiau yn cynnwys VAT)
Asesiadau ffisiolegol chwaraeon:
- Prawf VO2max: £130
- Dadansoddi cyfansoddiad y corff: £60
- Prawf trothwy lactad: £150
- Prawf trothwy awyru: £160
Asesiad dietegol:
- Dadansoddiad dietegol llawn: £90
- Cynllun diet ysgrifenedig llawn: £130
Asesiadau iechyd:
- Proffil lipid gwaed: £40
- Prawf iechyd llawn: £60
Biomecaneg a dadansoddi perfformiad:
- Profi Isocinetig: £90
- Dadansoddi Techneg: £160
Adsefydlu anafiadau:
- Melin Draed Gwrth-ddisgyrchiant (Alter-G): £40
Ymgynghoriaeth cryfder a chyflyru:
• Y plentyn fesul sesiwn: £10
• Fesul person fesul sesiwn: £40
• Fesul grŵp fesul sesiwn: £100
Eisiau archebu? Edrychwch ar ein dolenni isod:
ARCHEBWCH BRAWF PERFFORMIAD
Cliciwch ar y ddolen uchod i archebu sesiwn mewn Ffisioleg Chwaraeon, Adsefydlu Anafiadau, Dieteg, Iechyd, Biomecaneg, neu Ddadansoddiad Perfformiad.
ARCHEBWCH WASANAETH YMGYNGHORIAETH
Cliciwch ar y ddolen uchod i archebu Gwasanaeth Ymgynghori Cryfder a Chyflyru.
Gostyngiadau tâl ar gael ar gyfer archeb grŵp, nodwch maint eich grŵp yn eich archeb yna bydd aelod o'r tîm yn trafod hyn ymhellach gyda chi. Caniatewch hyd at 5 diwrnod gwaith i gael ymateb i'ch cais os gwelwch yn dda.
Os hoffech ragor o wybodaeth penodol am y profion sydd ar gael, neu os hoffech drafod eich cynllun perfformiad yn fwy manwl gydag un o’n harbenigwyr, cysylltwch â performance@glyndwr.ac.uk