
Cynadledda
O hanes cyfoethog i ddyfodol disglair i addysg yng Ngogledd Cymru, mae Prifysgol Wrecsam yn darparu ystod eang o gyfleusterau cynadledda ar draws ei safleoedd campws i helpu i gefnogi eich digwyddiadau busnes a chyfarfodydd.

Wrecsam
Mae gan ein prif gampws gyfleusterau pwrpasol o’r radd flaenaf o theatrau mawr i ystafelloedd cyfarfod bach, sy’n ein galluogi i ddarparu ar gyfer pob math o ddigwyddiadau busnes.

Llanelwy
Mae gan ein campws yn Llanelwy ystafell gynadledda â chyfarpar da, ystafelloedd cyfarfod ac ardaloedd rhwydweithio ar gyfer hyd at 120 o gynrychiolwyr.

Llaneurgain
Mae ein campws yn Llaneurgain yn cynnig ystafelloedd cyfarfod a seminar, ystafelloedd darlithio wedi’u hadnewyddu, ystafell fwrdd a neuadd chwaraeon.

Xplore!
Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cynnig nifer o fannau modern a hyblyg sy'n berffaith ar gyfer cyfarfodydd busnes, cyflwyniadau neu weithgareddau grŵp.

Arlwyo
Mae ein timau arlwyo ymroddedig ar y safle yn darparu amrywiaeth o fwyd a diodydd ffres i weddu i bob achlysur.
Ein cyfleusterau



