Arlwyo
Rydym yn gwybod rhan mor bwysig y mae arlwyo yn ei chwarae ym mhrofiad cyffredinol unrhyw ddirprwy neu westai, a’n nod yw darparu amrywiaeth o fwydlenni o ansawdd ar gyfer pob chwaeth ac angen deietegol, yn ogystal â phob cyllideb, ar bob un o’n safleoedd.
Os ydych yn chwilio am ginio busnes, pryd tri chwrs mawreddog, neu de a choffi ar gyfarfod cyfarfod cyflym, gallwn ni ei drefnu. Rydym hefyd yn arlwyo’n rheolaidd ar gyfer prydau bwffe oer a phoeth a derbyniadau diod, ac rydym yn hapus i weini lluniaeth yn eich lleoliad, neu mewn ystafell ar wahân.
Mae gan gampws Wrecsam ei lefydd bwyta ei hun hefyd, gan gynnwys bar coffi, ffreutur a bwyty gyda lle i hyd at 60 o westeion - delfrydol ar gyfer cwmnïau sydd eisiau cynnal brecwast busnes, creu argraff ar gwsmeriaid mewn lleoliad mwy diddos, neu er mwyn darparu amgylchedd bwyta mwy ffurfiol ar gyfer dirprwyon eich cynhadledd.
Yn Llanelwy ein tîm arlwyo ein hunain gall arlwyo ar gyfer unrhyw beth o de, coffi a bisgedi wedi’u gweini yn uniongyrchol i’ch cyfarfod, i bryd bwffe llawn ar gyfer hyd at 120 o bobl.
Rydym yn defnyddio cyflenwyr lleol ble bynnag y bo modd, ac yn ymdrechu i gynllunio ein bwydlenni i hyrwyddo dewisiadau bwyta iach. Rydym hefyd yn hapus i arlwyo ar gyfer unrhyw ofynion deietegol arbennig e.e. llysieuol, fegan, di-glwten, di-laeth a halal.