
Neuadd Chwaraeon
Mae ein lleoliad mwyaf, y Neuadd Chwaraeon, yn lle amlbwrpas gwych ar gyfer digwyddiadau mwy megis cyflwyniadau, derbyniadau ac arddangosfeydd, yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon, gan gynnwys badminton, pêl-rwyd, tennis bwrdd, pêl-droed pump-bob-ochr, pêl-fasged a phêl-foli. Yn gwbl hygyrch ac wedi’i goleuo’n dda, mae gan y neuadd ei chyfleusterau newid pwrpasol ei hun hefyd.
Yn lleoliad hynod hyblyg, mae lleoliad canolog y neuadd, a’i hagosrwydd at ein hystafelloedd seminar a darlithfeydd, yn golygu ei fod yn gweithio’n dda fel gofod cyflawn ar gyfer cynadleddau. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer arddangosfeydd, gyda lle i hyd at 20 o stondinau, ac fe’i defnyddir yn rheolaidd i gynnal ffeiriau, sioeau a marchnadoedd, yn ogystal â dyddiau hwyl i deuluoedd.
Gellir dod ag offer clyweledol i’r neuadd os oes angen, a gall dirprwyon hefyd elwa o wifi am ddim a chyfleusterau canolfan fusnes llawn.