Neuadd William Aston yw lleoliad theatr a chyngherddau mwyaf Wrecsam gyda lle i rhwng 880 o bobl (yn eistedd) a 1200 o bobl (yn sefyll).

Wedi’i leoli ar gyrion canol dinas Wrecsam ar gampws Prifysgol Wrecsam, mae wedi croesawu rhai o’r enwau mwyaf ym myd comedi (gan gynnwys Sarah Millican, Katherine Ryan a Jimmy Carr), cerddoriaeth (The Royston Club a Sweet) yn ogystal â bale, dawns, sgyrsiau a sioeau. 

Neuadd William Aston yw’r lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau mwy, yn amrywio o gyngherddau a pherfformiadau cerddorfaol i seremonïau gwobrwyo a lansiadau cynnyrch – i enwi dim ond rhai. Mae ei hagosrwydd at y mwyafrif o ystafelloedd dosbarth y Brifysgol yn ei gwneud yn ddewis ardderchog ar gyfer cynadleddau, gyda digonedd o ystafelloedd trafod o bob maint. Mae gan y llwyfan mawr gyfleusterau sain a goleuo o’r radd flaenaf y gellir eu defnyddio hefyd yn ystod cynadleddau ar gyfer sesiynau cyflawn, yn ogystal ag agor a chloi seremonïau.

Mae’r neuadd wedi ei lleoli ym mhrif adeilad y Brifysgol ac yn gwbl hygyrch, gyda lifft i’r prif awditoriwm a’r balconi, a mannau pwrpasol ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’r dderbynfa fawr y tu allan i’r neuadd yn ofod delfrydol ar gyfer croesawu a chofrestru dirprwyon, ac yn lleoliad delfrydol i gynnal arddangosfeydd ac arddangosiadau ar y cyd â digwyddiadau. Yn ystod y dydd, mae Café Bar 45 cyfagos yn lle gwych i rwydweithio dros baned.

Enwyd y lleoliad ar ôl William Aston CBE (1869-1962), gŵr busnes adnabyddus a gwleidydd lleol a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad Wrecsam fel tref a chanolfan addysg.

Wedi'i weithredu gan Theatr Clwyd, dylid gwneud ymholiadau trwy ymweld â: https://williamastonwrexham.com/visit/booking