.jpg)
Camymddwyn Rhywiol a Cham-drin Domestig
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd lle mae pob aelod o gymuned y Brifysgol yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu cefnogi a’u parchu. Mae’r dudalen we yn amlinellu ymateb y Brifysgol i gamymddwyn rhywiol a cham-drin domestig, y cymorth sydd ar gael i staff a myfyrwyr a sut i ymateb i ddatgeliad o gamymddwyn rhywiol neu gam-drin domestig.
O’i roi’n syml, unrhyw ymddygiad o natur rywiol nas dymunir, neu ymgais ar ymddygiad o’r fath, sy’n cael ei gyflawni heb ganiatâd, yw camymddwyn rhywiol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o wahanol weithredoedd fel treisio, cam-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol. Nid oes yn rhaid i gamymddwyn rhywiol gynnwys cyswllt corfforol, gall rhai enghreifftiau o hyn gynnwys rhannu lluniau o natur rywiol er mwyn dial, gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol nas dymunir, fflachio seiber neu gip-fflachio.
Mae Llywodraeth y DU yn diffinio cam-drin domestig fel digwyddiad neu batrymau o ddigwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, yn gorfodi, yn bygwth, neu drais neu gam-drin. Gall cam-drin domestig ddigwydd rhwng partneriaid agos neu aelodau o’r teulu, waeth beth fo’u rhywedd neu eu rhywioldeb. Mae gwahanol gategorïau yn ymwneud ag ymddygiadau o gam-drin domestig ac nid yw wedi ei gyfyngu i gam-drin corfforol.
Nid yw’r Brifysgol yn goddef unrhyw gamymddwyn rhywiol neu ymddygiadau o gam-drin domestig a bydd adroddiadau ffurfiol i’r Brifysgol yn cael eu hystyried a’u hasesu. Gall adroddiadau ffurfiol i’r Brifysgol gael eu hystyried os yw’r adroddiad yn cynnwys unigolion sy’n aelodau o gymuned y Brifysgol, unai’n staff neu fyfyrwyr. Os yw myfyriwr yn dymuno gwneud adroddiad ffurfiol gall wneud hynny drwy gysylltu gyda’n Tîm Ymddygiad Myfyrwyr ar student.conduct@wrexham.ac.uk.
Fis Chwefror 2026 diweddarodd y Brifysgol y polisi Camymddwyn Rhywiol a Cham-drin Domestig, gan amlinellu’r mecanweithiau sydd ar gael os yw myfyriwr neu aelod o staff yn adrodd am ddigwyddiad a’r camau a ellid eu cymryd fel rhan o’r broses ymchwilio. Mae’r polisi i'w gael yma: Polisi Camymddwyn Rhywiol A Cham-Drin Domestig
Cymorth yn Syth
Os ydych chi, neu rywun arall mewn perygl ac angen cymorth brys, yna cysylltwch â’r Heddlu ar 999. Os bydd angen cymorth, ond nad yw’n sefyllfa o argyfwng, yna gellir cysylltu â’r Heddlu ar eu llinell nad yw’n argyfwng 101.
Os yw’r unigolyn sydd angen cymorth ar y campws, yna mae Tîm Diogelwch ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Maent wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf a gallant gysylltu â’r gwasanaethau argyfwng os ydynt wedi cael eu galw. Gallwch gysylltu â’r Tîm Diogelwch ar 0764687909 neu 07640687910.
Mae’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn llinell gymorth genedlaethol sy’n cael ei chynnal gan Cymorth i Ferched Cymru, yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i’r rhai sydd wedi profi cam-drin rhywiol, cam-drin domestig neu unrhyw fath o drais yn erbyn menywod a genethod. Yn ogystal â llinell gymorth, gellir cynnig cymorth hefyd drwy wasanaeth sgwrs fyw, testun ac e-bost. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yma. Mae’n bosib cysylltu â’r llinell gymorth ar 0808 80 10 800.
Mae Amethyst wedi’i lleoli ym Mae Colwyn a dyma’r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiad Rhywiol (SARC) ar gyfer Gogledd Cymru. Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiad Rhywiol yn rhoi amrywiaeth o gymorth i rai sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol. Gall y cymorth hwn gynnwys archwiliadau fforensig, gwiriad iechyd rhywiol, gwybodaeth am opsiynau adrodd a gwasanaethau cwnsela arbenigol. Nid oes raid i berson adrodd i’r heddlu er mwyn cael mynediad at gymorth gan SARC. Mae gwybodaeth ynghylch Amethyst a sut i gael mynediad at eu cymorth ar gael yma. I’r rhai sy’n byw yn Lloegr, gallwch nodi eich cod post yma i ddod o hyd i’ch SARC lleol.
Cymorth i Fyfyrwyr
Gall myfyrwyr gael mynediad at gymorth ar unrhyw agwedd yn ymwneud â chamymddwyn rhywiol a cham-drin domestig gan ein Tîm Bywyd Myfyrwyr a Champws drwy ASK. Nid oes angen i fyfyrwyr wneud adroddiad ffurfiol i’r Brifysgol i dderbyn cymorth a chânt gymorth i wneud y penderfyniad sydd fwyaf addas ar eu cyfer hwy. Gall myfyrwyr gael mynediad at gymorth drwy’r ddolen hon. Gall staff gyfeirio myfyrwyr drwy’r ddolen hon.
Yn ystod apwyntiad gydag aelod o’r tîm bydd Bywyd Myfyrwyr a Champws yn:
- Egluro opsiynau adrodd sydd ar gael i fyfyrwyr
- Trafod unrhyw asiantaethau cymorth arbenigol allanol
- Edrych ar unrhyw bryderon am ddiogelwch neu iechyd meddwl myfyriwr
- Trafod unrhyw bryderon ymarferol sydd gan y myfyriwr, megis dyddiadau cyflwyno academaidd neu gyllid
- Gyda chaniatâd y myfyriwr, cysylltu ag aelodau eraill o staff o fewn y Brifysgol i drafod opsiynau cymorth, e.e. siarad â Thiwtoriaid Personol i edrych am estyniad neu gynllun dysgu
- Cynnig cymorth os yw’r person a fu’n dreisgar/cam-drin yn byw neu’n astudio gyda myfyriwr
Rydym yn deall y gall myfyrwyr ddatgelu profiadau i aelodau o staff y maent yn teimlo’n gyfforddus â hwy. Er mwyn cynorthwyo aelodau o staff i roi cymorth i’n myfyrwyr, mae ein Tîm Bywyd Myfyrwyr a Champws wedi creu canllaw byr yn amlinellu’r ffordd orau o ymateb, y cyfyngiadau cyfrinachedd a’r opsiynau cymorth sydd ar gael. Mae hwn ar gael yma.
Cymorth Arbenigol
Mae llawer o sefydliadau, y tu allan i’r Brifysgol, sy’n gallu cynnig cymorth arbenigol i’r rhai sydd wedi profi cam-drin domestig neu gamymddwyn rhywiol. Mae'r rhain yn cynnwys:
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn:
Ar gael 24 awr y dydd ac yn darparu canllawiau a chymorth i’r rhai sy’n profi cam-drin domestig.
- 0808 80 10 100
- Sgwrs fyw ar-lein
- Testun
- info@livefearfreehelpline.wales
Llinell Gyngor Dynion:
Llinell gymorth gyfrinachol i ddynion sydd wedi profi cam-drin domestig.
- 0808 801 0327
- info@mensadviceline.org.uk
Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU):
Mae DASU yn darparu cymorth i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan Gam-drin Domestig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
- 0333 360 0483
- info@dasunorthwales.co.uk
Canolfan Cymorth Cam-drin Rhywiol a Threisio (RASASC) Gogledd Cymru:
Mae Canolfan Cymorth Cam-drin Rhywiol a Threisio Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cymorth arbenigol a therapi i unrhyw un 3 oed a throsodd sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais yn ddiweddar neu yn y gorffennol.
- 01248 670 628
- info@rasacymru.org.uk
Os oes rhywun wedi profi cam-drin rhywiol neu gam-drin domestig, efallai y byddant am drafod eu hopsiynau. Mae’n bwysig nad yw pobl yn teimlo pwysau i ymddwyn mewn ffordd arbennig a bod ganddynt y wybodaeth a’r cymorth i wneud y penderfyniad gorau iddynt hwy.