(Cwrs Byr) Avid Pro Tools - Cwrs Lefel Defnyddiwr
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
12 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynhyrchu cyfryngau ac eisiau dysgu sgiliau technoleg newydd? Bydd y cwrs addysgiadol hwn a ddatblygwyd gan Brifysgol Wrecsam yn dysgu mewnwelediadau meddalwedd Avid Pro Tools a ddefnyddir i olygu cerddoriaeth a sain.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae'r cwrs byr hwn yn ymdrin â chynnwys Cwricwlwm Lefel ‘Defnyddiwr’ Avid Pro Tools ar gyfer cymwysterau 101 a 100.
- Bydd yn eich cyflwyno i’r cysyniadau meddalwedd a chaledwedd ac yn eich addysgu sut i ddefnyddio technegau a strategaethau golygu cynhyrchiad cyfryngau ar gyfer cydbwyso a chwblhau sain ar gyfer y Cyfryngau.
- Mae Ardystiad Avid yn cael ei gydnabod ledled y byd ac mae'n helpu gweithwyr proffesiynol i ennill a dangos y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gynyddu eu gwerth, eu cymhwysedd a’u heffeithiolrwydd yn y diwydiant cyfryngau cystadleuol iawn.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys y pynciau cyffredinol canlynol ar Lefel Sylfaenol Avid Pro Tools:
- Cefndir: Hanes Pro Tools ac Egwyddorion Sain Ddigidol
- Cysyniadau caledwedd a meddalwedd Pro Tools
- Prosesau Golygu Pro Tools
- Prosesau Recordio Pro Tools
- MIDI Pro Tools
- Prosesau Cymysgu Pro Tools
- Prosesau Gorffen Pro Tools
- Llif gwaith diwydiant ar gyfer Pro Tools
Cyflwynir trwy weithgareddau dysgu cyfunol gyda chymysgedd o sesiynau byw, cynnwys ar-lein wedi'i recordio a rhywfaint o bresenoldeb ar y campws.
Addysgu ac Asesu
Bydd asesiad Wrecsam gorfodol o ddysgu myfyrwyr ar ffurf Blog wythnosol (hyd canllaw o 300 o eiriau) a chwis ar-lein. Bydd yr ardystiad Avid yn ddewisol ac ar ffurf arholiad ar-lein wedi’i amseru y mae’n rhaid i’n Hyfforddwr Ardystiedig Glyndwr Avid ei goruchwylio.
Ffioedd a chyllid
Pris llawn: £195
Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol.
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Bydd angen i chi fewngofnodi bob wythnos i gael mynediad at y cynnwys ac i astudio’r cwrs.